NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

08.12.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Meini prawf cymeradwyo newydd ar gyfer cymwysterau mewn Teithio a Thwristiaeth

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo heddiw ar gyfer cymwysterau ôl-16 mewn Teithio a Thwristiaeth. Daw hyn yn dilyn adolygiad helaeth o’r sector, a chyfranogiad rhanddeiliaid mewn arolwg diweddar ar y meini prawf cymeradwyo drafft.

Gydag 11.8% o holl weithlu Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector, mae hon yn garreg filltir newydd ar gyfer cymwysterau Teithio a Thwristiaeth yng Nghymru. O fis Ionawr 2024, bydd y Cyrff Dyfarnu sy'n cynnig y cymwysterau hyn ar hyn o bryd yn dechrau datblygu'r cymwysterau newydd, yn barod i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2026.

Mae’r meini prawf cymeradwyo yn nodi rhai gofynion allweddol ar gyfer cynnwys ac asesu’r cymwysterau hyn, gan gynnwys rhoi cyfleoedd i ddysgwyr i:

  • archwilio sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, technoleg ddigidol a marchnata
  • dangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gyd-destunau teithio a thwristiaeth ar raddfa leol, ranbarthol, genedlaethol a byd-eang a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol yng Nghymru.

Yn y dyfodol, rhaid i gymwysterau Teithio a Thwristiaeth Cymeradwy gynnwys o leiaf 40% o asesu di-arholiad (NEA).

Mae manylion llawn yr adolygiad sector a'r meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig ar gael ar Wefan Cymwysterau Cymru.

Dywedodd Lisa Mitchell, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru “Roedd y pandemig yn arbennig o heriol i’r diwydiant teithio a thwristiaeth ond mae’n parhau i fod yn sector hynod bwysig o ran gweithlu Cymru’n gyffredinol. Cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo newydd heddiw yw’r cam nesaf o ran sicrhau y bydd dysgwyr yn cael mynediad at ystod eang o gymwysterau priodol sy’n adlewyrchu sut mae’r sector yn gweithredu ar hyn o bryd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio â ni ar y gwaith hwn, gan gynnwys ein Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid, Grŵp Cymwysterau’r Sector ac aelodau o’n Grŵp Trafod, sydd i gyd yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr a chynrychiolwyr AB, a gynigiodd gyngor ac arweiniad i ni ac a heriodd ein cynigion mor adeiladol drwyddi draw.”