Ystadegau swyddogol am newidiadau yn y canlyniadau ar lefel canolfan yn haf 2021
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ystadegau swyddogol ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn mewn canlyniadau ar draws canolfannau ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch. Mae'r ystadegau hyn yn crynhoi'r newidiadau mewn canlyniadau ar draws canolfannau yng Nghymru.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, "Cynyddodd y canlyniadau cenedlaethol eto yn 2021 ar ôl cynnydd mwy fyth yn 2020. Roedd y cynnydd yn 2021 yn fwy ar gyfer UG a Safon Uwch nag ar gyfer TGAU. Mae'r ystadegau newydd hyn yn dangos bod amrywiad sylweddol yn y canlyniadau fesul canolfan, gyda chynnydd mewn rhai meysydd yn llawer mwy nag eraill. Mae patrwm cyffredinol y newidiadau mewn canlyniadau ar draws canolfannau hefyd yn anarferol gan fod y canlyniadau ar lefel canolfan yn uwch ar y cyfan na blynyddoedd blaenorol, ond mewn blwyddyn arholiad byddai rhai canlyniadau sy'n uwch a rhai'n is.
Mae symud yn ôl i system arholiadau genedlaethol eleni yn golygu y bydd y canlyniadau'n edrych yn wahanol eto, ond byddant yn gwella cysondeb rhwng canolfannau. Mae mwy o gysondeb yn golygu ein bod yn disgwyl i ganlyniadau fod yn decach yn gyffredinol.
Wrth i ganlyniadau pynciau a chanolfannau gynyddu'n gyffredinol rhwng 2019 a 2021, credwn y bydd dychwelyd i drefniadau asesu arferol yn arwain at ganlyniadau is yn 2022. Ac wrth i'r cynnydd rhwng 2019 a 2021 mewn pynciau a chanolfannau fod yn wahanol, bydd y gostyngiadau yn 2022 hefyd yn amrywio. Y rheswm am hyn yw y bydd dull asesu gwahanol a bydd canlyniadau yn 2022 yn fwy tebyg i'r rhai cyn y pandemig."
Amrywiad yng nghanlyniadau'r canolfannau
Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos bod canlyniadau mewn canolfannau yn gyffredinol yn cynyddu yn unol â'r cynnydd mewn canlyniadau cenedlaethol. Dangosodd ystadegau a ryddhawyd ar ddiwrnod canlyniadau fod newidiadau anghyson mewn canlyniadau yn ôl mathau o ganolfannau a nodweddion dysgwyr fel eu rhywedd. Cynyddodd canlyniadau Safon Uwch mewn colegau addysg bellach lai dros y cyfnod hwnnw nag mewn ysgolion.
Fodd bynnag, nid yw'r cynnydd cenedlaethol ar draws canolfannau yn rhoi darlun llawn o sut y newidiodd y canlyniadau ar lefel canolfannau. I rai, gostyngodd y canlyniadau mewn nifer fach o ganolfannau (yn enwedig mewn TGAU) ond cynyddodd y canlyniadau yn y rhan fwyaf o ganolfannau yn sylweddol ac mewn rhai canolfannau roedd y cynnydd yn fawr iawn. Os cymharwch batrwm y newidiadau pe bai arholiadau wedi’u cynnal dros ddwy flynedd, byddent yn annodweddiadol.
Mae'r anghysondebau yn y canlyniadau yn debygol o gael eu cynhyrchu gan nifer o ffactorau, ac mae'r hyblygrwydd o ran asesu yn 2020 a 2021 yn debygol o fod yn cyfrannu. Roedd angen y dull hyblyg hwn i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn graddau a dyma'r peth iawn i'w wneud mewn amgylchiadau anghyffredin.
Ond pan fydd canlyniadau'n newid mwy i rai dysgwyr nag eraill dim ond oherwydd sut y cânt eu hasesu, gall hyn fod yn annheg. Er enghraifft, gallai roi mantais i rai dysgwyr o'i gymharu ag eraill yn y broses dderbyn i Addysg Uwch.
Graddau yn 2022
Bydd dychwelyd i arholiadau yn 2022 yn gwella'r cysondeb yn y ffordd y caiff dysgwyr eu hasesu a dylent leihau dylanwad dulliau anghyson o asesu ar y graddau y mae dysgwyr yn eu derbyn, ac yn sichrau bod yr amodau’n gyfartal i bob dysgwr o ran dangos yr hyn y maent yn ei wybod ac yn gallu ei wneud.
Gweler y dolenni i'n crynodebau canlyniadau cenedlaethol a'r ystadegau swyddogol newydd hyn.