Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi ystod newydd gyffrous o gymwysterau
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar y mathau o gymwysterau a fydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed - ochr yn ochr â’r TGAU Gwneud-i-Gymru newydd.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar y mathau o gymwysterau a fydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed - ochr yn ochr â’r TGAU Gwneud-i-Gymru newydd.
Bydd y newidiadau a fydd yn llywio maes cymwysterau ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd ar draws y wlad yn golygu cyflwyno cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) newydd sy’n gysylltiedig â gwaith, yn ogystal â chymwysterau newydd sy’n seiliedig ar sgiliau.
Bydd hyn yn cynnig cymwysterau newydd arloesol, cyffrous, cynhwysol a heriol i bob dysgwr, â’r cymwysterau hynny’n cwrdd â nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru.
Erbyn 2027, ynghyd â chymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru, bydd dysgwyr 14-16 oed yng Nghymru yn gallu dewis o blith:
- TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd)
- Cymwysterau sylfaen
- Cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith
- Cymhwyster Prosiect Personol
Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
"Yr ystod gyffrous hon o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, ynghyd â'r TGAU newydd sydd eisoes yn cael eu datblygu, yw’r trawsnewidiad mwyaf o ran cymwysterau 14-16 mewn cenhedlaeth. Bydd yn golygu y bydd ein holl ddysgwyr, beth bynnag fo'u diddordeb, eu dawn neu eu gallu, yn gallu cael cydnabyddiaeth a gwobr am yr hyn maen nhw'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud. Gyda'r cymwysterau newydd hyn, byddan nhw’n gallu symud ymlaen o'r Cwricwlwm i Gymru i'r cam dysgu nesaf a chreu sylfaen ar gyfer eu llwyddiant personol eu hunain."
Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:
"Mae datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol o'r pwys mwyaf i'r gweithlu a'r economi yng Nghymru yn y dyfodol. Mae busnesau bach yn tynnu sylw’n gyson at y ffaith bod mynediad at sgiliau yn rhwystr i dwf. Mae ein hymchwil yn dweud wrthym fod cysylltiadau agosach rhwng darparwyr, y gymuned fusnes, a sefydliadau addysgu yn gallu bod o fudd gwirioneddol i ddeilliannau dysgwyr, yn ogystal â chefnogi busnesau i harneisio’r sgiliau cywir i dyfu, a thrwy hynny hybu economïau lleol.
Ein gobaith yw y bydd y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn cyfrannu rhywfaint at wella’r dewisiadau i ddysgwyr. Drwy ategu’r cwricwlwm â phrofiadau bywyd go iawn a rhyngweithio â busnesau bach yn y gymuned leol, bydd y cymwysterau hyn yn helpu dysgwyr i symud ymlaen mewn bywyd, dysgu a gwaith.”
Dywedodd Poppy, aelod o’r Grŵp Cynghori Dysgwyr:
“Mae’r ystod hon o gymwysterau yn anhygoel. Pan fyddaf yn meddwl yn ôl i’r cyfarfodydd cyntaf yr oeddem yn eu cael a’r hyn y mae fy nghyfoedion wedi’i ddweud am y diffyg opsiynau a’r pethau sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw, mae’n teimlo ein bod wedi cael gwrandawiad go iawn a’i fod wedi’i roi ar waith, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Mae gweld datblygiad y cymwysterau hyn yn wych a sut y bydd hyn yn digwydd yn ymarferol yn gyffrous iawn.
Cefndir:
Cafodd yr ymgynghoriad ar gyfer y cymwysterau newydd hyn ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2023. Denodd yr ymgynghoriad ystod eang o safbwyntiau gan fwy na 500 o randdeiliaid, gan gynnwys dysgwyr, rhieni, athrawon, cyrff dyfarnu a cholegau.
Dadansoddodd Cymwysterau Cymru yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac ymgysylltu ymhellach â’i randdeiliaid allweddol cyn cyhoeddi’r penderfyniadau sydd wedi arwain at sefydlu set o Gymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd Gwneud-i-Gymru. Bydd pob un o’r cymwysterau hyn ar waith erbyn mis Medi 2027.
Cymwysterau Sgiliau
Bydd cyfres newydd o gymwysterau Sgiliau Gwaith a Sgiliau Bywyd yn cael eu datblygu, o lefel mynediad i lefel 2. Bydd y cymwysterau hyn yn apelio at gyflogwyr a dysgwyr fel ei gilydd, ac yn cynnig ystod arloesol o unedau sy’n cwmpasu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc wrth iddyn nhw symud drwy fywyd a gwaith yn y gymdeithas fodern. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth cyntaf, llythrennedd ariannol, paratoi bwyd, cynaliadwyedd, technegau cyfweliad, menter a llawer mwy.
Cymhwyster Prosiect
Bydd cymhwyster newydd o’r enw’r cymhwyster Prosiect Personol yn cael ei gyflwyno. Mae’n gymhwyster seiliedig ar brosiect sy’n asesu’r sgiliau cyfannol sy’n cael eu rhestru yn y Cwricwlwm. Bydd ar gael o lefel mynediad i lefel 2, a bydd yn caniatáu i bob dysgwr astudio pwnc o’i ddewis, yn annibynnol ac yn fanwl, er mwyn ennill y cymhwyster.
Cymwysterau seiliedig ar waith
Bydd cymhwyster newydd sy’n seiliedig ar waith yn cael ei lansio, sef y Dystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU). Bydd yn cael ei hasesu ar lefel 1 a lefel 2 yn debyg i’r TGAU. Bydd yn fath newydd pwysig o gymhwyster a fydd yn galluogi pobl ifanc i ddysgu am feysydd galwedigaethol drwy ddull mwy ymarferol o ddysgu ac asesu.
Cymwysterau sylfaen
Bydd cymwysterau sylfaen yn cael eu cyflwyno i alluogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen i gymryd y camau nesaf tuag at ddysgu ôl-16. Bydd ystod o gymwysterau lefel mynediad/lefel 1 yn ategu’r cymwysterau TAAU a TGAU, gan ganiatáu i ddysgwyr wneud cynnydd ar y lefel sy’n addas ar eu cyfer nhw. Bydd cymwysterau sylfaen ym maes TGAU ar gael mewn pynciau traddodiadol tra bydd y rhai ym maes TAAU yn ymwneud â phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith.