NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

20.02.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cymwysterau Cymru yn lansio ymgynghoriad ar y dull awgrymedig o ddynodi cymwysterau 14-16

Mae Cymwysterau Cymru yn awyddus i gael barn rhanddeiliaid ar ei ddull awgrymedig o benderfynu pa gymwysterau fydd yn gallu cael eu cynnig ar gyrsiau addysg neu hyfforddiant a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus i ddysgwyr 14-16 oed.

Gyda chwricwlwm newydd yn cael ei addysgu mewn ysgolion, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi gofynion ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd. Bydd y rhain yn darparu cyfres ddwyieithog, gynhwysol o gymwysterau y gall ysgolion ddewis eu cynnig i'w dysgwyr. 

Yn gynharach eleni fe wnaeth Cymwysterau Cymru gyhoeddi datganiad o fwriad polisi a oedd yn nodi ei dull gweithredu awgrymedig a’r rhesymeg dros benderfynu pa gymwysterau fyddai ar gael fel rhan o’r cynnig cymwysterau 14-16 newydd o fis Medi 2025.  

Wrth i gymwysterau TGAU newydd eu diwygio gael eu haddysgu o 2025, byddan nhw’n disodli unrhyw gymwysterau a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus y bernir eu bod yr un fath neu'n debyg. Erbyn mis Medi 2027, pan fydd ystod lawn y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 wedi’i chyflwyno, ni fydd mwyafrif y cymwysterau cyn-16 eraill a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus ar gael i ddysgwyr mwyach.  

Am fod gan rai cymwysterau ddibenion gwahanol i Gymwysterau Cenedlaethol 14-16, neu eu bod yn darparu ar gyfer lleiafrif bach o ddysgwyr, bydd Cymwysterau Cymru yn caniatáu i gyrff dyfarnu wneud cais am eithriad ar y sail bod cymhwyster yn gallu bodloni set gyfyngedig o feini prawf. 

Mae Cymwysterau Cymru yn croesawu ymatebion i'w ymgynghoriad ar feini prawf eithrio awgrymedig ar gyfer cyrff dyfarnu, yn ogystal â ffactorau a thystiolaeth eraill y dylai eu hystyried wrth benderfynu gwneud eithriadau i'w fwriad polisi. 

Dywedodd Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio Cymwysterau Cymru: 

“Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i randdeiliaid rannu eu barn ar ddull awgrymedig Cymwysterau Cymru o ddynodi cymwysterau 14-16 o 2025 ymlaen. Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn cefnogi'r trosglwyddiad llwyddiannus i'r Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd.” 

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor am 12 wythnos tan ddydd Mawrth 14 Mai 2024. Er mwyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, bydd angen i chi gofrestru ar wefan ymgysylltu Dweud Eich Dweud Cymwysterau Cymru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch ymateb i'r cynigion ar-lein drwy gwblhau'r arolwg hwn