NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

11.05.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru dan anfantais oherwydd newidiadau polisi yn Lloegr

Fel rheoleiddiwr, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod ystod briodol o gymwysterau ar gael i ddysgwyr yng Nghymru. 

Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU heddiw wedi cyhoeddi rhestr o gymwysterau sy'n gorgyffwrdd â thonnau 1 a 2 o lefelau T ac felly byddant yn cael eu dadariannu yn Lloegr o fis Awst 2024.

Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod y bydd llawer yn pryderu am sut mae'r cyhoeddiad hwn yn effeithio ar argaeledd rhai cymwysterau lefel 3 yng Nghymru.

Mae’n bwysig nodi na fydd y rhestr o gymwysterau a fydd yn cael eu dadariannu yn Lloegr yn cael ei dadariannu – nac yn peidio â bod ar gael – yng Nghymru.

Fel rheoleiddiwr, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod ystod briodol o gymwysterau ar gael i ddysgwyr yng Nghymru. 

Cyn y cyhoeddiad hwn, rydym wedi bod yn gweithio’n helaeth gyda chyrff dyfarnu i sicrhau bod parhad yn y ddarpariaeth yng Nghymru ac nad yw bylchau’n dod i’r amlwg yn y cynnig cymwysterau ôl-16. Er enghraifft, mae Pearson a City & Guilds wedi ymrwymo i ymestyn cymwysterau lle bo angen, wrth i ni benderfynu beth ddylai iteriadau nesaf y cymwysterau fod. 

Yn y rhan fwyaf o sectorau, mae cymwysterau amgen ar gael nad ydynt wedi'u nodi ar gyfer dadariannu yn Lloegr. Yn ogystal, mewn rhai sectorau allweddol, fel iechyd a gofal cymdeithasol ac adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, rydym wedi datblygu cymwysterau newydd sydd wedi’u creu ar gyfer Cymru na fydd y newidiadau polisi yn Lloegr yn effeithio arnynt, fel rhan o'n cyfres o adolygiadau sector o gymwysterau.

Byddwn yn parhau i archwilio opsiynau i ehangu, mabwysiadu neu addasu cymwysterau i ddiwallu anghenion Cymru neu, lle bo angen, yn comisiynu cymwysterau newydd i lenwi’r bylchau. Yn y gwaith hwn byddwn yn dod â cholegau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith ynghyd â chyrff dyfarnu at ei gilydd i sicrhau bod cymwysterau addas at y diben yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr Cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn lliniaru’r risgiau a chamau gweithredu yn y dyfodol, gallwch ddarllen ein gohebiaeth ddiweddar i bob ysgol, coleg a darparwr dysgu yn y gweithle yng Nghymru.