Cymwysterau Cymru'n cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol
Mae Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau heblaw rhai lefel gradd a gynigir gan y cyrff dyfarnu a gydnabyddir yng Nghymru, wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol.
Roedd y cyfnod adrodd ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-2022 yn un o heriau parhaus i'r system addysg, oherwydd effaith pandemig Covid-19 ar sefydlogrwydd y system ac ar allu dysgwyr i ymgysylltu â dysgu.
Mae'r adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at rywfaint o waith Cymwysterau Cymru yn ystod y cyfnod yma, yn cynnwys:
- Monitro a goruchwylio cyflwyno'n ddiogel y gyfres arholiadau gyntaf ers tair blynedd
- Paratoi ar gyfer ei ymgynghoriad mwyaf erioed, i ddiwygio TGAU yng Nghymru
- Dechrau gweithio i nodi pa gymwysterau eraill y dylai fod ar gael fel rhan o gynnig cydlynol, cynhwysol i'r rhai rhwng 14-16 oed
- Parhau i fonitro cymwysterau galwedigaethol newydd wedi’u Gwneud-i-Gymru, mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Cynhyrchu adnoddau newydd i gefnogi cyrff dyfarnu i wella argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg
- Comisiynu cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru newydd a fydd yn dechrau cael ei addysgu o'r flwyddyn nesaf ymlaen
Meddai Cadeirydd Cymwysterau Cymru, David Jones OBE DL:
"Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ein gwaith dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, pan oedd Covid-19 yn parhau i darfu ar ein system addysg. Wrth gyflwyno'r adroddiad hwn, hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr sydd wedi llwyddo er gwaethaf yr holl heriau hyn, a diolch i'n holl bartneriaid am eu cydweithrediad a'u hyblygrwydd o ran ein galluogi i ddychwelyd i drefniadau asesu mwy arferol."
Meddai Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker:
"Roedd 2021-22 yn eithriadol a heriol, gyda'r pandemig yn effeithio ar allu dysgwyr i ymgysylltu â'u dysgu. Byddwn yn dal i deimlo effaith y pandemig am beth amser ac rydym yn dal i fod yn ymwybodol o hyn yn ein gwaith, gan gydbwyso'r sefyllfa ar hyn o bryd â buddiannau tymor hir dysgwyr. Er bod y dychweliad graddol i’r trefniadau asesu cyn y pandemig wedi bod yn ffocws, roeddem hefyd yn parhau â'n gwaith o adolygu a diwygio cymwysterau. Gwnaed cynnydd sylweddol yn y gwaith o gyd-greu ystod newydd o gymwysterau i bobl ifanc 14-16 oed. Galluogodd gweithio'n agos ag ystod eang o randdeiliaid, yn cynnwys athrawon ac arbenigwyr pwnc, ni i lunio cynigion dylunio sy'n cyd-fynd ag uchelgais y Cwricwlwm i Gymru, ac rydym yn ymgynghori ar y cynigion hyn ar hyn o bryd."