Cymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Iaith a llenyddiaeth Gymraeg a Cymraeg Craidd
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi manylion y cymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Cymraeg Craidd, a fydd yn disodli'r cymwysterau UG a Safon Uwch presennol mewn Cymraeg iaith gyntaf a Cymraeg ail iaith o fis Medi 2027 ymlaen.
Yn unol ag amcanion polisi strategol ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ac addysg Gymraeg, mae Cymwysterau Cymru eisiau sicrhau bod pob cymhwyster Cymraeg yn y dyfodol yn cefnogi dysgwyr i fod yn ddefnyddwyr hyderus a medrus o'r Gymraeg – gan gynnwys y cymwysterau hynny sy’n cael eu hastudio ar ôl addysg orfodol.
Yn hydref 2024, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei fwriad i gynnal adolygiad o'r cymwysterau UG a Safon Uwch mewn Cymraeg iaith gyntaf a Cymraeg ail iaith, gyda'r nod o'u disodli â chymwysterau newydd. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion dylunio ar gyfer y cymwysterau newydd o fis Mehefin i fis Medi 2025.
Cefnogwyd yr ymgynghoriad gan ymarfer cyfathrebu ac ymgysylltu eang i gasglu cymaint o safbwyntiau â phosibl ar y newidiadau arfaethedig i'r cymwysterau hyn, gan gynnwys gan athrawon, darlithwyr a dysgwyr.
Wrth ddod i'w benderfyniadau, ystyriodd y rheoleiddiwr yn ofalus yr ystod eang o safbwyntiau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad, er mwyn sicrhau y bydd y newidiadau uchelgeisiol hyn yn diwallu anghenion dysgwyr yn y ffordd orau. Mae newidiadau i'r cymwysterau'n canolbwyntio ar wella pa mor hylaw a gafaelgar mae’r cymwysterau, gyda chynnwys wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'n well y wybodaeth a'r sgiliau y mae cyflogwyr, prifysgolion a rhanddeiliaid eraill yn dweud y mae dysgwyr eu hangen.
Mae'r adroddiad llawn, sy'n manylu ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn amlinellu'r penderfyniadau, ar gael yma.
Yn ogystal ag annog mwynhad gydol oes o’r Gymraeg, mae’r cymwysterau newydd yn:
- dangos ymrwymiad Cymwysterau Cymru i'r uchelgais genedlaethol o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
- cefnogi'r newid i astudio Cymraeg fel pwnc mewn addysg uwch, a all gyfrannu at sicrhau'r arbenigedd sydd ei angen ar gyfer gweithlu dwyieithog
- cefnogi polisi sy'n esblygu ar gyfer Cymraeg fel pwnc ac addysg Gymraeg fel yr amlinellir yn Neddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
- adlewyrchu galwadau i ddiweddaru cynnwys ac asesiad i helpu ystod ehangach o ddysgwyr i weld perthnasedd, gwerth ac apêl y cymwysterau maen nhw'n eu hastudio
O 2027, bydd y cymhwyster UG a Safon Uwch Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg newydd ar gael i ddysgwyr sydd wedi eu haddysgu mewn ysgolion Categori 2 a Chategori 3, a bydd y cymhwyster UG a Safon Uwch Cymraeg Craidd newydd ar gael i ddysgwyr sydd wedi eu haddysgu mewn ysgolion Categori 1. Mae rhagor o wybodaeth am gategorïau ysgolion ar gael yma.
Mae'r broses weithredu wedi cael ei hamseru i sicrhau y bydd y garfan gyntaf o ddysgwyr sy'n sefyll y cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg newydd a'r cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd, a gafodd eu cyflwyno ym mis Medi 2025, yn gallu symud ymlaen i'r cymwysterau UG a Safon Uwch Cymraeg newydd os ydyn nhw’n dewis parhau â'r pwnc ôl-16.
Bydd y penderfyniadau hyn yn darparu’r sail ar gyfer y gofynion rheoleiddio y bydd CBAC yn eu dilyn wrth ddylunio a datblygu'r cymwysterau newydd. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfleoedd pellach i randdeiliaid roi adborth, gan gynnwys pan fydd CBAC yn ceisio barn ar agweddau mwy datblygedig ar y cymwysterau, cyn cyflwyno manylebau drafft i'r rheoleiddiwr yng ngwanwyn 2026.
Dywedodd Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru:
“Rwy’n falch ein bod ni mewn sefyllfa i gyhoeddi manylion y cymwysterau Cymraeg newydd cyffrous hyn, a fydd yn cael eu datblygu gan CBAC. Dangosodd yr ymgynghoriad lefelau uchel o gytundeb â'n cynigion yn gyffredinol. Er fy mod yn cydnabod na fydd pawb yn cytuno â'r dull hwn, hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd – yn enwedig yr athrawon, y darlithwyr a'r dysgwyr hynny a rannodd eu barn gyda ni.”