Cynllun ar gyfer llwyddiant: eglurhad o’r cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg newydd
Dyma Nathan Evans, Rheolwr Cymwysterau, i ddadansoddi’r cymhwyster TGAU newydd mewn dylunio a thechnoleg a fydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion ym mis Medi 2026.
Mae dysgu mewn dylunio a thechnoleg yn cefnogi pobl i ifanc i ddatrys problemau mewn ffordd chwilfrydig a galluog. Mae’n eu hannog nhw i ystyried sut mae cynhyrchion yn cael eu gwneud, pam eu bod yn gweithio, a sut allan nhw gael eu gwella. Trwy gael profiadau ymarferol, bydd dysgwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ac yn magu hyder i ddefnyddio’r sgiliau hynny mewn ffyrdd creadigol.
Mae’r cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg yn rhoi pwyslais mawr ar wynebu a datrys heriau. Mae’n grymuso dysgwyr i ddeall cynnyrch a datrysiadau modern, ac i ddychmygu a dylunio rhai gwell. Wrth wneud hyn, bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau cydweithio ac i deimlo perchnogaeth dros y cyfraniad y gallan nhw ei wneud.
Mewn byd sy’n llawn posibiliadau, ac yn llawn o heriau dybryd – gan gynnwys cynaliadwyedd, defnyddio adnoddau, awtomeiddio, trawsnewid digidol, a lles byd-eang – mae mwy a mwy o angen am ddylunwyr sy’n gallu meddwl yn foesegol, gweithio’n greadigol, a datrys y problemau pwysig.
Mae deunyddiau, technolegau ac offer newydd yn newid sut rydyn ni’n yn byw ac yn gweithio trwy’r adeg, ac mae'r cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i ymwneud â'r cyfleoedd hynny yn hyderus ac yn feddylgar.
Mae’r TGAU newydd hwn yn cefnogi datblygiad dysgwyr uchelgeisiol a galluog, sy’n gyfranwyr mentrus a chreadigol, ac sy’n barod i wynebu heriau, i arwain newid, ac i greu dyfodol mwy cynaliadwy. Bydd yn dal i gynnig llwybrau i feysydd ffasiwn a thecstilau, dylunio peirianyddol a dylunio cynnyrch, gan gynnig digon o ddewis i ddysgwyr.
Felly, sut mae’r cymhwyster wedi newid?
Cymhwyster sy’n edrych tua’r dyfodol
Mae’r cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg wastad wedi cynnig cyfleoedd ystyrlon i ddysgwyr arbenigo ac ymgysylltu â ffyrdd creadigol ac ymarferol o ddatrys problemau. Mae’r cymhwyster newydd yn adeiladu ar y sylfaen hwnnw, gyda chynnwys newydd a phwyslais cryfach ar gynaliadwyedd, offer digidol, a defnydd dilys yng nghyd-destun y byd go iawn.
Mae’r cymhwyster TGAU newydd yn rhoi pwyslais cryf ar sgiliau ymarferol. Y broses ddylunio iterus sydd wrth wraidd y cymhwyster, ac mae’n annog dysgwyr i greu prototeipiau, i brofi, i fyfyrio ac i fireinio eu syniadau. Mae hyn yn adlewyrchu’r dulliau sy’n cael eu defnyddio’n aml yn y diwydiant, ac yn galluogi dysgwyr i fod yn hyblyg ac yn feirniadol wrth feddwl am eu cynnyrch a’u dulliau. Mae hefyd yn helpu i ddatblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd nid yn unig cyrraedd cynnyrch terfynol, ond deall y daith a arweiniodd ato.
Dylunio gyda chyfrifoldeb: cynaliadwyedd a moeseg
Mae dylunio a thechnoleg yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr fynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau ac i ddod i’w deall. Byddan nhw hefyd yn datblygu’r sgiliau y bydd arnyn nhw eu hangen i ymateb yn gadarnhaol trwy gydol y broses o ddatrys problemau drwy gynnyrch. Mae dylunwyr, yng Nghymru ac yn fyd-eang, yn wynebu heriau cynaliadwyedd, ac mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ystyried yr agwedd hon ar ddylunio cynnyrch ac ar gylch oes eu cynnyrch mewn ffordd feirniadol.
Yn ehangach, bydd dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am dechnolegau newydd a datblygol, deunyddiau clyfar, ynni adnewyddadwy a storio. Pan fydd dysgwyr yn adnabod cyfleoedd dylunio, yn creu prototeipiau, ac yn defnyddio’r broses iterus, byddan nhw’n cymhwyso’r wybodaeth hon ac yn dangos eu bod yn ddylunwyr ystyriol a chyfrifol a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r byd yn y dyfodol.
Cydbwysedd yr asesu
Mae'r asesiad wedi cael ei gydbwyso i adlewyrchu natur ymarferol ac archwiliadol y broses ddylunio. Mae'r cymhwyster bellach yn cynnwys:
- prosiect dylunio (70%): mae'r asesiad di-arholiad hwn yn gofyn i ddysgwyr ymateb i heriau cyd-destunol ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddylunio trwy iteriad a chreu prototeipiau sy'n datrys y problemau dan sylw
- arholiad digidol yn unig (30%): bydd yr asesiad hwn yn cynnig amrywiaeth eang o wahanol eitemau a deunyddiau ysgogol i hyrwyddo diddordeb dysgwyr, gan ganiatáu i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gysyniadau craidd a chysyniadau penodol i’r llwybr
Cymorth i athrawon
Er mwyn helpu canolfannau i baratoi ar gyfer addysgu’r cymhwyster am y tro cyntaf, bydd CBAC yn darparu cyfres o adnoddau digidol dwyieithog a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Bydd y rhain yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r cymhwyster yn effeithiol gyda'r nod o helpu athrawon i deimlo'n hyderus wrth arwain dysgwyr drwy'r cymhwyster newydd cyffrous hwn - beth bynnag fo'u cefndir.
Gallwch chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael ar wefan CBAC.