Cynllun Gweithredu Cymwysterau Galwedigaethol Ôl-16
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Gweithredu Cymwysterau Galwedigaethol Ôl-16 ar gyfer 2026–2028, sy’n nodi sut y bydd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau cynnig cymwysterau galwedigaethol cryf a chynaliadwy yng Nghymru.
Mae'r cynllun gweithredu yn amlinellu ein blaenoriaethau strategol ar gyfer cefnogi cymwysterau galwedigaethol o ansawdd uchel i ddysgwyr 16 i 19 oed, gan gynnwys prentisiaid, yn ystod cyfnod o newid sylweddol ar draws tirwedd cymwysterau'r DU.
Mae cymwysterau galwedigaethol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi dilyniant i gyflogaeth, dysgu pellach, a phrentisiaethau. Fodd bynnag, gallai diwygiadau cymwysterau yn Lloegr effeithio ar argaeledd cymwysterau yng Nghymru. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi sut y byddwn ni’n mynd i'r afael â'r heriau hyn trwy ddarparu sefydlogrwydd tymor byr wrth siapio cynnig yn y dyfodol sy'n diwallu anghenion Cymru.
Cynllun gweithredu 2026-2028
Gan dynnu ar adborth rhanddeiliaid a datblygiadau mewn polisi addysg ôl-16 yn Lloegr, rydyn ni wedi nodi pedwar cam gweithredu y byddwn ni’n eu blaenoriaethu yn ystod y ddwy flynedd nesaf:
- Darparu cyngor cadarn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i Lywodraeth Cymru i lywio polisi addysg a hyfforddiant galwedigaethol ôl-16 yn y dyfodol.
- Gweithio'n agos gyda chyrff dyfarnu i sicrhau bod cymwysterau ar gael yn barhaus i ddysgwyr a darparwyr.
- Cwmpasu'r potensial ar gyfer cyfres sgiliau ôl-16 hyblyg i Gymru.
- Mapio argaeledd cymwysterau dysgu oedolion a chymunedol i nodi bylchau a llywio cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae'r cynllun gweithredu wedi cael ei siapio yn dilyn ymgysylltiad helaeth â cholegau addysg bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, cyflogwyr, cyrff sector a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru.