Cynwysoldeb mewn Systemau Asesu Rhyngwladol
Rydym yn y broses o ddiwygio cymwysterau i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru. Rydym yn ystyried sut y gall cyrff dyfarnu ymgorffori cynwysoldeb ymhellach yn eu cymwysterau ac yn y system gymwysterau ehangach.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth a deall mwy am yr hyn y gall cymwysterau ei gyflawni'n rhesymol yn y maes yma, rydym wedi comisiynu ymchwil i fyfyrio ar sut mae awdurdodaethau rhyngwladol yn ymgorffori cynhwysiant yn eu cymwysterau ar gyfer dysgwyr ysgol uwchradd.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr ymchwil, yma. Mae crynodeb gweithredol ar y dechrau sy'n rhoi trosolwg o'r cyd-destun, cefndir a chanfyddiadau allweddol.
Mae’r ymchwil wedi nodi rhai ystyriaethau allweddol wrth i ni barhau i ddiwygio cymwysterau yng Nghymru, gan gynnwys:
- mae cynhwysiant yn gysyniad deinamig sy'n datblygu
- mae cynhwysiant mewn systemau asesu yn ehangach na threfniadau mynediad neu addasiadau rhesymol yn unig
- strwythur cymwysterau o ran y cynnwys ac iaith yn ystyriaeth bwysig ar gyfer cynwysoldeb
- rôl technoleg ddigidol mewn perthynas â’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer cynwysoldeb mewn asesu
- sut mae trefniadau mynediad presennol yn darparu ar gyfer gwahanol anghenion dysgwyr
- cydweithio pellach gyda chyrff dyfarnu a sefydliadau cydraddoldeb yn ein gwaith diwygio
- nodi cyfleoedd i adlewyrchu ymhellach ar ystod amrywiol o safbwyntiau, cyfraniadau, a phrofiadau ym mhob maes diwygio cymwysterau, cyfaddawdu rhwng cysyniadau fel hygyrchedd a chynwysoldeb a sut y bydd hyn yn effeithio ar agweddau eraill ar ddylunio cymwysterau