NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

03.08.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Cyrff dyfarnu i ddarparu’r Cynnig Cymraeg i ddysgwyr

Mae Cymwysterau Cymru wedi creu pecyn adnoddau a fydd yn cefnogi pob corff dyfarnu i ddarparu’r Cynnig Cymraeg mewn ffordd ragweithiol.  

Gan ddilyn arfer da o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Cymwysterau Cymru wedi creu pecyn adnoddau a fydd yn cefnogi pob corff dyfarnu i ddarparu’r Cynnig Cymraeg mewn ffordd ragweithiol.  

Mae'r pecyn adnoddau'n rhoi arweiniad i gyrff dyfarnu ar sut gellir cyflwyno’r 'Cynnig Cymraeg' law yn llaw â thaith gymhwyso y dysgwr, ac mae'r pecyn yn cynnwys enghreifftiau o arfer da a dolenni at adnoddau a chysylltiadau ychwanegol.  

Mae'r pecyn adnoddau yn annog cyrff dyfarnu i ddarparu gwybodaeth benodol i ddysgwyr am gymwysterau Cymraeg a dwyieithog, ac i wneud hynny fel nad oes rhaid i ddysgwyr ofyn amdani. Mae’r pecyn hefyd yn annog cyrff dyfarnu i hyrwyddo a hysbysebu cymwysterau Cymraeg neu ddwyieithog yn rhagweithiol drwy dynnu sylw at eu hargaeledd ac annog pobl i’w cymryd. 

Wrth ddod â’r elfennau hyn ynghyd, rydyn ni’n cyfeirio atynt fel y 'Cynnig Gweithredol', sef  egwyddor allweddol Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru 'Mwy na geiriau'. Nod y Cynnig Gweithredol yw creu newid mewn diwylliant a fydd yn cymryd y cyfrifoldeb oddi ar ddefnyddiwr y gwasanaeth fel nad oes rhaid gofyn yn benodol am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, "Rydyn ni’n gwybod bod gwaith da eisoes yn digwydd gan rai cyrff dyfarnu o fewn Cymru, ond yr hyn rydyn ni am ei weld yw Cynnig Gweithredol cyson ar draws system gymwysterau Cymru." 

Ychwanegodd Philip, "Nod y pecyn adnoddau hwn yw annog a chefnogi cyrff dyfarnu i gyflwyno’r Cynnig Gweithredol drwy gydol taith y dysgwr. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gwybodaeth gywir a chyfredol am gymwysterau Cymraeg ar gael yn hawdd a bod cymorth dwyieithog ar gael i ddysgwyr. Mae hefyd yn golygu holi am ddewis iaith wrth gofrestru, gan sicrhau bod dysgwyr yn gallu cwblhau asesiadau yn eu dewis iaith a chyhoeddi tystysgrifau dwyieithog." 

Dywedodd Luise Ruddick, Swyddog Polisi, Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB), "Mae FAB yn croesawu'r pecyn adnoddau cynhwysfawr hwn, a fydd o gymorth mawr i'n haelodau sy'n darparu cymwysterau yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn o dwf a datblygiad yn y sector." 

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru strategaeth Dewis i Bawb yn 2020 i gynyddu ystod ac argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg. Ynddi, nododd mai dim ond tua un rhan o bump o’r cyrff dyfarnu a reoleiddir ganddynt sy’n cynnig cymwysterau yn Gymraeg, ac mai dim ond tua 21% o’r cymwysterau sy’n gymwys ar gyfer cyllid cyhoeddus sydd ar gael yn Gymraeg. 

Er mwyn cyflawni'r nodau a nodir yn Dewis i Bawb, mae Cymwysterau Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi cyrff dyfarnu a rhoi'r cyfle iddynt ddefnyddio'r pecyn adnoddau yn ôl eu dymuniad wrth iddynt gychwyn ar gynnig y daith gymhwyso bwysig hon i ddysgwyr yng Nghymru. 

Bydd Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol yn yr hydref i gasglu eu barn ar ofynion a chanllawiau sy'n ymwneud â hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o gymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog y mae cyrff dyfarnu yn eu darparu.