BLOG

Cyhoeddwyd:

26.02.26

ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Cyrraedd y safon: egluro’r raddfa raddio newydd ar gyfer TGAU dwyradd

Mae’r cymwysterau TGAU dwyradd newydd yn defnyddio graddfa raddio symlach a haws i’w deall. Dyma Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau, i egluro beth sy’n newid a pham.

Rydyn ni wedi datblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU dwyradd mewn pedwar pwnc allweddol, a hynny yn rhan o’r Cymwysterau Cenedlaethol 14–16.   

Gan fod TGAU dwyradd yn gymwysterau mwy, mae dysgwyr yn cael gradd dwy lythyren, er enghraifft: CC.  Mae’r ddwy lythyren yn helpu i ddangos bod y cymhwyster yn fwy o faint na chymwysterau TGAU arferol. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth briodol i gyflawniad dysgwyr ar gwblhau’r cymwysterau hyn, gan eu bod â mwy o gynnwys ac asesiadau na rhai graddau unigol.  

Cyn hyn, roedd graddau dwyradd yn cael eu rhoi ar raddfa 15-pwynt, felly byddai modd rhoi graddau AA, AB, BC, CD, ac yn y blaen. Fodd bynnag, yn dilyn adborth gan ein rhanddeiliaid ac er cysondeb ar draws y gyfres TGAU newydd, rydyn ni wedi dewis adolygu’r dull hwn. 

Beth sy'n newid? 

Bydd cymwysterau TGAU dwyradd y Cymwysterau Cenedlaethol yn cael eu graddio gan ddefnyddio graddfa 8-pwynt. Mae hyn yn golygu bydd dysgwyr yn cael dwy lythyren yr un fath yn eu gradd: 

  

Graddfa raddio TGAU newydd 

 A*A* 

 AA 

 BB 

 CC 

 DD 

 EE 

 FF 

 GG 

 

Hen raddfa raddio TGAU 

 A*A* 

 A*A 

 AA 

 AB 

 BB 

 BC 

 CC 

 CD 

 DD 

 DE 

 EE 

 EF 

 FF 

 FG 

 GG 

 

Manteision  

Mwy eglur i bawb 

Mae’r raddfa 8-pwynt yn symlach ac yn haws i’w deall. Gan fod dwy lythyren y radd yr un fath, mae hi’n haws dehongli’r canlyniadau. Er enghraifft, gallai graddau megis CD beri dryswch o ran cyflawniad y dysgwr. Fydd hyn ddim yn broblem gyda’r raddfa newydd.  

Camddealltwriaeth yn llai tebygol 

Gyda’r gyfres newydd o gymwysterau TGAU, mae rhai pynciau a arferai gael eu hasesu ar wahân, megis iaith a llenyddiaeth Saesneg, bellach wedi cael eu cyfuno. Felly, gallai dwy lythyren wahanol (er enghraifft AB) awgrymu graddau ar wahân ar gyfer y ddwy agwedd, er nad yw hynny’n wir.      

Gwell cysondeb â TGAU gradd unigol 

Mae’r ddau bellach yn defnyddio’r un nifer o bwyntiau gradd. 

Gwell dibynadwyedd  

Mae cael wyth gradd yn hytrach na 15 gradd yn gwella cywirdeb wrth ddosbarthu graddau. Gyda llai o raddau, mae’r ffiniau rhyngddyn nhw’n ehangach. Mae hyn yn golygu y bydd llai o ymgeiswyr yn agos iawn at y ffin rhwng graddau, lle gallai'r canlyniad y mae dysgwr yn ei gyflawni newid ar sail ychydig o farciau yn unig. 

Pynciau  

Mae'r raddfa 8 pwynt newydd yn berthnasol i'r cymwysterau dwyradd canlynol: 

  • TGAU Iaith a llenyddiaeth Saesneg
  • TGAU Iaith a llenyddiaeth Gymraeg
  • TGAU Mathemateg a rhifedd 
  • TGAU Y Gwyddorau  

Amserlen 

Cafodd cymwysterau TGAU dwyradd mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg, iaith a llenyddiaeth Gymraeg, a mathemateg a rhifedd eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025. Bydd y cymwysterau’n cael eu dyfarnu am y tro cyntaf ym mlwyddyn academaidd 2026/2027.   

Bydd y cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2026, ac yn cael ei ddyfarnu am y tro cyntaf yn haf 2028.  

Mae hyn yn golygu y bydd cymysgedd o raddau dwyradd 15-pwynt ac 8-pwynt yn cael eu dyfarnu yn haf 2027. O haf 2028 ymlaen, bydd pob cymhwyster dwyradd yn defnyddio’r raddfa 8-pwynt newydd. 

 Mae’r tabl isod yn dangos crynodeb o’r newidiadau hyn.   

 Pwnc 

 Dyfarnu am y tro cyntaf  

 Graddfa raddio 

TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Dwyradd) 

 Haf 2027 

Pob un ar y raddfa 8-pwynt 

TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Dwyradd) 

Haf 2027 

TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd) 

Haf 2027 

TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) 

Haf 2028 

 

 

Cynnal safonau 

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod canlyniadau’r cymwysterau TGAU newydd yn aros yn weddol debyg i’r rhai a roddwyd yng nghymwysterau’r gorffennol. Gallwch ddysgu mwy am ein safbwynt o ran canlyniadau gweddol debyg yma 

Mae tair gradd sy’n cynnwys C yn y cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd cyfredol (sef BC, CC a CD). Dim ond un fydd yn y cymhwyster newydd (CC). Gan fod llai o bwyntiau gradd yn y cymhwyster TGAU newydd yn Y Gwyddorau (Dwyradd), byddwn ni’n cydweithio’n ofalus â CBAC er mwyn diogelu canlyniadau dysgwyr pan fydd y cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gyntaf. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn y flwyddyn academaidd nesaf.