Da iawn i ddysgwyr yng Nghymru sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol heddiw
Heddiw (22 Awst) yw'r ail ddiwrnod o ganlyniadau cymwysterau eleni, gyda dros 58,000 o ddysgwyr yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU mewn ysgolion a cholegau ledled y wlad.
Mae'r canlyniadau hyn yn benllanw gwaith caled gan ddysgwyr, a'r athrawon, staff eraill mewn canolfannau a theuluoedd sydd wedi eu cefnogi drwy eu haddysg.
Mae canlyniadau'r haf hwn yn nodi dychwelyd i drefniadau cyn y pandemig ar gyfer cymwysterau yng Nghymru, gydag arholiadau ac asesiadau wedi'u dyfarnu’n debyg i flynyddoedd cyn y pandemig, yn fras.
Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:
“Gall eich canlyniadau eich helpu i gymryd eich cam nesaf, boed hynny'n cael swydd, dechrau prentisiaeth neu hyfforddiant, neu barhau â'ch astudiaethau yn yr ysgol neu'r coleg.
Da iawn i bawb sy’n derbyn canlyniadau. Mae heddiw yn garreg filltir sylweddol yn eich bywyd, ar ôl blynyddoedd o waith caled.
Rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael y graddau yr oeddech yn gobeithio eu cael. Os na, peidiwch â phoeni. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i chi, a phobl yn barod i'ch cefnogi, gan gynnwys trwy eich ysgol neu goleg.”
Y trefniadau ar gyfer cymwysterau eleni oedd y cam olaf wrth ddychwelyd yn raddol i brosesau cyn y pandemig a ddechreuodd pan ddaeth arholiadau ffurfiol yn ôl yn 2022. Mae’r gwahaniaethau yn y dulliau dyfarnu dros y pedair blynedd diwethaf yn golygu na ddylid gwneud cymariaethau rhwng canlyniadau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn.
Roedd diogelwch ystadegol ar gael yng Nghymru eleni i atal unrhyw ostyngiadau sylweddol mewn canlyniadau ar lefel pwnc. Er bod ffiniau graddau mewn rhai pynciau yn is nag mewn cyfresi blaenorol, mae safon y perfformiad wedi golygu nad oedd angen i’r corff dyfarnu, CBAC, i weithredu hyn - ac mae gan yr ystadegau rôl arferol gyda barn arholwyr wrth osod ffiniau graddau.
Ychwanegodd Philip Blaker:
“Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer eich camau nesaf, mae'n hanfodol bod eich cymwysterau'n ddibynadwy ac yn cael eu gwerthfawrogi, gan ddangos yr hyn rydych chi'n ei wybod ac yn gallu ei wneud.
Dyna pam roedd hi'n bwysig i ni ddychwelyd i'r trefniadau asesu arferol eleni yn dilyn y pandemig, er mwyn sicrhau bod tegwch hirdymor i'r holl ddysgwyr."
Gan ddiolch i athrawon, ychwanegodd Philip Blaker:
"Rwyf hefyd am gydnabod yr holl waith caled a wnaed gan athrawon a staff eraill mewn canolfannau ledled Cymru, i baratoi eu dysgwyr ar gyfer asesiadau drwy gydol y flwyddyn."
Canlyniadau TGAU
- fe gafodd 316,588 o raddau TGAU eu dyfarnu yr haf yma - mae hyn yn fwy na nag yn 2019 a 2023
- roedd llai o gofrestriadau gan ddysgwyr ym mlwyddyn 10 ac is eleni, o'i gymharu â'r llynedd, ond mwy nag yn 2019
- roedd 19.2% o'r graddau TGAU a gafodd eu cyhoeddi yn radd A/7 neu’n uwch, roedd 62.2% yn radd C/4 neu’n uwch ac roedd 96.6% yn radd G/1 neu’n uwch
- ar gyfer unigolion 16 oed a wnaeth sefyll TGAU A* i G, roedd 6.7% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 19.4% yn A* i A ac 63.2% yn raddau A* i C
- mae'r canlyniadau hyn ar gyfer arholiadau a gafodd eu sefyll yr haf yma - dydyn nhw ddim yn cynnwys graddau a gyflawnwyd gan yr un dysgwyr mewn cyfresi arholiadau blaenorol
- mae'r canlyniadau a gafodd eu cyhoeddi gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) ar gyfer pob dysgwr yn cynnwys TGAU A* i G Cymru a TGAU 9 i 1 sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn Lloegr - gan nad yw graddfeydd y graddau yn alinio'n uniongyrchol, caiff canlyniadau eu cyhoeddi ar gyfer graddau allweddol A/7, C/4 a G/1
Mae gan Cymwysterau Cymru fwy o wybodaeth am ganlyniadau cenedlaethol, yn ogystal â chefnogaeth ar y camau nesaf ar eu gwefan ac mae gan Cymru'n Gweithio gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ar ba opsiynau sydd ar gael i'r rhai sy'n derbyn canlyniadau.