Datganiad safbwynt ar y cyd ar asesu digidol mewn cymwysterau TGAU newydd
Gan Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru a CBAC
Mae cymwysterau TGAU newydd ar gyfer dysgwyr 14-16 wedi'u dylunio i adlewyrchu a chefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cysoni cynnwys y pwnc a dulliau asesu'r cymwysterau, yn ogystal â'r profiadau dysgu y byddan nhw’n eu galluogi. Mae datblygu cymwyseddau digidol, gwybodaeth a sgiliau, a meithrin diwylliant digidol ehangach, yn elfennau pwysig o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. Yn ogystal, o fewn dysgu ar draws meysydd cwricwlwm ehangach, gall defnyddio technoleg ddigidol roi cyd-destunau cyfoethog ar gyfer datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau.
Mae amrywiaeth o ddyfeisiau digidol yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn ystafelloedd dosbarth a lleoliadau eraill, gan alluogi dulliau arloesol o addysgu, dysgu ac asesu. Wrth i'r defnydd o dechnolegau digidol gan ddysgwyr ac ymarferwyr gael ei ymgorffori fwyfwy, rydyn ni wedi nodi sut y gall yr offer hyn gefnogi cyflwyno cymwysterau TGAU Cenedlaethol. Bydd amrywiaeth ehangach o ddulliau asesu o fewn cymwysterau TGAU Cenedlaethol, gan gynnwys mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol. Mae Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru a CBAC yn gweithio ar y cyd i gefnogi ysgolion i gyflwyno asesiadau digidol o fewn y cymwysterau hyn, a chael mynediad cyfartal atyn nhw.
Mae cymwysterau TGAU newydd wedi cael eu cyd-greu gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys athrawon. Gofynnwyd i grwpiau datblygu ar gyfer pob pwnc ystyried y dulliau asesu mwyaf dilys ar gyfer eu pynciau, gan gynnwys eu hystyriaeth o'r dulliau mwyaf tebygol o addysgu a dysgu yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru. Pan fydd asesiadau digidol yn unig yn cael eu cyflwyno, byddan nhw mewn meysydd lle mae'r dull asesu yn cefnogi CBAC i ddylunio asesiadau dilys iawn ac a fydd yn caniatáu i ddysgwyr ddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu mewn ffyrdd cyfarwydd. Bydd yr asesiadau hyn hefyd yn gallu bodloni disgwyliadau dysgwyr sy'n defnyddio ac yn profi technolegau digidol mewn nifer cynyddol o ffyrdd yn eu bywydau, o fewn y byd addysg a thu hwnt.
Mae'n bwysig nodi nad yw asesiadau digidol yn unig yn cael eu cynnwys ym mhob cymhwyster TGAU. Mae'r newidiadau’n cael eu cyflwyno fesul cam, gan ddechrau gydag un asesiad digidol yn unig newydd yn haf 2026. Mae'r dudalen asesu digidol ar wefan Cymwysterau Cymru yn crynhoi'r pynciau lle mae asesiadau digidol yn unig yn cael eu cyflwyno a phryd.
Yn y cymwysterau hyn, mae CBAC yn adeiladu ar fwy na 15 mlynedd o brofiad o ddylunio a chyflenwi asesiadau digidol, mewn pynciau TGAU megis bwyd a maeth, technoleg ddigidol ac iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, yn ogystal â mewn cymwysterau TAG Safon Uwch a galwedigaethol eraill. Mae CBAC wedi cyhoeddi manylebau a deunyddiau asesu enghreifftiol ar gyfer pob cymhwyster TGAU Cenedlaethol, sydd ar gael ar wefan CBAC. Trwy ymweld â thudalennau pwnc, gellir gweld enghreifftiau o arholiadau digidol yn unig, sy'n dangos dull CBAC. Mewn TGAU Drama, er enghraifft, mae darnau o destunau drama wedi'u cynnwys ar y platfform, yn ogystal â deunydd clyweledol a swyddogaeth llyfr nodiadau. Mewn TGAU Cerddoriaeth, mae clipiau sain, cerddoriaeth ddalen a thaflenni geiriau wedi'u cynnwys. Mae'r gwelliannau hyn nid yn unig yn cefnogi dilysrwydd yr asesiadau ond hefyd eu potensial i ennyn diddordeb dysgwyr.
Darpariaeth ddigidol
Mae'r cynnydd mewn asesiadau digidol mewn cymwysterau yn digwydd mewn cyd-destun lle mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £228 miliwn mewn ysgolion i drawsnewid eu tirwedd ddigidol, gan gydnabod yr angen am seilwaith digidol cadarn i hwyluso dysgu digidol. Mae'r buddsoddiad hwn wedi darparu dros 320,504 o ddyfeisiau i ddysgwyr ac ymarferwyr ers 2020 i gefnogi tegwch mynediad at dechnoleg ddigidol.
Mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, mae'r buddsoddiad hwn wedi cefnogi rhaglen Hwb i herio a newid y dirwedd ddigidol mewn ysgolion. Mae'r rhaglen yn datblygu dull cwbl gynaliadwy, safonol a chyson o ymdrin â thechnolegau digidol fel cyfleustodau hanfodol. Mae'n rhoi mynediad cyfartal i awdurdodau lleol ac ysgolion i ymgorffori technoleg addysg a gwasanaethau digidol o ansawdd uchel, diogel a dibynadwy, sy'n briodol i'w defnyddio mewn lleoliad addysg.
Trwy'r buddsoddiad hwn, mae Llywodraeth Cymru eisiau grymuso ysgolion i harneisio manteision trawsnewidiol digidol a thechnoleg mewn addysg. Bydd hyn yn galluogi ac yn ysbrydoli ymarferwyr i wella darpariaeth y Cwricwlwm i Gymru ac yn cefnogi ein dysgwyr i ymgorffori sgiliau digidol yn hyderus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi darpariaeth technoleg addysg drwy gyllid a roddir gan Raglen Ariannu Technoleg Addysg Hwb. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2025/26, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £12 miliwn mewn darpariaeth ddigidol ysgolion. Yn ogystal â'r cyllid hwn, crëwyd y safonau digidol addysg yn 2019 mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gynorthwyo ysgolion i ddeall, rheoli a gweithredu eu hamgylchedd digidol. Mae'r safonau'n rhoi canllawiau ar sut y dylai ysgolion ddiogelu eu hamgylchedd digidol ar gyfer y dyfodol i ddiwallu anghenion cwricwlwm sy'n canolbwyntio mwy ar ddigidol. Wrth gynllunio a pharatoi i gyflwyno asesiadau digidol, anogir ysgolion yn gryf i weithio ar y cyd â'u hawdurdod lleol i ddatblygu a chynnal eu darpariaeth o dechnoleg addysg. Wrth weithio gydag awdurdodau lleol, dylai ysgolion ystyried y dyfeisiau a'r offer digidol a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer asesiadau digidol, a'r amgylcheddau lle bydd yr asesiadau’n cael eu cynnal.
Tegwch a hygyrchedd
Mae rhai ysgolion yng Nghymru eisoes yn gyfarwydd â chyflwyno arholiadau digidol drwy gymwysterau cyffredinol presennol lle maen nhw’n ymddangos. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai ysgolion yn llai cyfarwydd ac mae cynnydd cyffredinol yn nifer yr asesu digidol. Mae asesiadau effaith integredig Cymwysterau Cymru yn 2023 a 2024 yn cydnabod effeithiau posibl ar hydrinedd ac ar ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC yn gweithio'n agos gyda'i gilydd drwy gydol y broses o weithredu'r Cymwysterau Cenedlaethol.
Trwy’r gwaith hwn, rydyn ni wedi cynhyrchu canllawiau i gefnogi canolfannau i ddatblygu eu parodrwydd ar lefel y ganolfan a’u parodrwydd ar gyfer cyflwyno arholiadau digidol yn unig. Gall canolfannau nawr ddefnyddio'r dogfennau canllaw hyn yn weithredol i wneud cynnydd pellach yn eu parodrwydd. Mae'r dogfennau'n cynnig canllawiau ar feysydd fel asesu'r ystod o ddyfeisiau sydd ar gael, ystyried y defnydd o dechnolegau digidol mewn dysgu ac asesu ffurfiannol, a defnyddio dogfennau allanol, gan gynnwys gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ), i nodi amgylcheddau asesu addas mewn lleoliadau ysgol. Gall y dogfennau hyn hefyd fod yn offeryn defnyddiol ar gyfer cefnogi cydweithredu rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol wrth i gynllunio a pharatoi ar gyfer asesiadau digidol fynd rhagddo.
Yn dilyn asesiad effaith integredig Cymwysterau Cymru, rhoddwyd ystyriaeth i gyflymder ac amserlen y newid. Fel y dangosir ar wefan Cymwysterau Cymru, mae'r newidiadau'n cael eu cyflwyno dros gyfnod o sawl blwyddyn, gan gefnogi hydrinedd i ganolfannau. Yn 2025/26, dim ond un asesiad digidol yn unig newydd fydd, mewn TGAU Cyfrifiadureg; pum asesiad digidol yn unig arall yn 2026/27; a phump arall yn haf 2028. Bydd asesiad digidol hefyd yn cael ei gyflwyno mewn TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddiweddarach, gyda rhagor o wybodaeth i'w rannu maes o law. Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y bydd asesiadau digidol mewn pedwar pwnc dyniaethau bellach yn cael eu cyflwyno ar ôl 2031, gan roi eglurder am y pum mlynedd cyntaf o gyflwyno’r cymwysterau TGAU newydd hyn, a rhoi mwy o amser i ganolfannau ganolbwyntio ar asesiadau digidol gyda dyddiadau cyflwyno wedi'u cadarnhau.
Er mwyn cyflwyno asesiadau digidol yn ddiogel, a sicrhau tegwch i bob dysgwr sy'n sefyll arholiad digidol yn unig, mae CBAC yn gweithio'n agos gyda chwmni Surpass, gan ddefnyddio ei feddalwedd asesu i gyflwyno asesiadau ar y sgrin ac sy’n cael ei ddarparu i ysgolion. Mae CBAC yn cydnabod bod ysgolion yng Nghymru yn defnyddio amrywiaeth o fathau o ddyfeisiau digidol ac mae'n gweithio gyda Surpass i gyflwyno fersiwn newydd o'r feddalwedd arholi. Bydd y fersiwn newydd hwn yn golygu y bydd canolfannau a dysgwyr yn gallu defnyddio dyfeisiau Chromebook Google, yn ogystal â dyfeisiau Windows, i gyflwyno arholiadau digidol yn unig. Mae'r newidiadau hyn i feddalwedd yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd fel y gellir defnyddio dyfeisiau Google Chromebook yn eang yn haf 2027, gyda chanllawiau ategol i ddilyn. Ar gyfer haf 2026, rydyn ni’n argymell bod canolfannau yn parhau i gynllunio i ddefnyddio dyfeisiau Windows ar gyfer arholiadau digidol yn unig. Mae'r datblygiad hwn yn cefnogi canolfannau i wneud y defnydd gorau o'r ystod o dechnolegau digidol presennol yn eu lleoliadau.
Mae CBAC hefyd yn gweithio'n agos gydag ysgolion i gefnogi dysgwyr i gael mynediad at asesiadau ym mhob un o’i gymwysterau. Mae'r feddalwedd Surpass a ddefnyddir gan CBAC yn cynnig rhai nodweddion integredig a chydnaws sy'n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Er enghraifft, bydd dysgwyr yn gallu:
- dewis dewisiadau lliw ar gyfer arddangos eu harholiad
- addasu'r gosodiad cyferbyniad
- defnyddio offer chwyddo ar gyfer cynyddu maint arddangos testun
- defnyddio ymarferoldeb darllen sgrin os ydyn nhw fel arfer yn gweithio gyda meddalwedd gydnaws
Gall y dogfennau canllaw parodrwydd, a deunyddiau asesu enghreifftiol CBAC, fod yn gyfeiriadau defnyddiol wrth archwilio i ba raddau y mae'r offer hyn yn diwallu anghenion dysgwyr unigol. Fodd bynnag, efallai bydd angen addasiadau rhesymol eraill ar ddysgwyr i gefnogi hygyrchedd cyffredinol yr asesiad. Gall canolfannau barhau i gysylltu â CBAC, yn unol â'r broses bresennol, i nodi a chytuno ar unrhyw addasiadau rhesymol eraill.
Gwydnwch
Mae mesurau ar waith gan CBAC i hyrwyddo gwydnwch asesiadau digidol, a lliniaru effeithiau negyddol ar ddysgwyr a chanolfannau a allai ddeillio o aflonyddwch technegol. Er enghraifft, bydd canolfannau’n gallu lawrlwytho arholiadau digidol yn unig ymlaen llaw, fel, os bydd cysylltiad rhyngrwyd yn cael ei dorri ar adeg dechrau arholiad, na fydd oedi i ddysgwyr allu dechrau eu hasesiadau a bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd. Mae canllawiau manwl, cam wrth gam ar gael drwy wefan ddiogel Surpass CBAC ar ôl creu cyfrif gyda CBAC. Trwy gydol arholiad digidol yn unig, bydd y system yn cydamseru ymateb dysgwr bob 30 eiliad – i ardal storio ddiogel ar-lein os oes cysylltiad ar gael, neu’n lleol os nad oes cysylltiad – sy’n golygu mai effaith fach iawn fyddai ar gynnydd dysgwr pe bai dyfais unigol yn methu’n annisgwyl. Os bydd aflonyddwch technegol, bydd tîm e-asesu CBAC yn gweithio'n agos gyda chanolfannau i roi cefnogaeth ac arweiniad.
Bydd Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos drwy gydol y broses o weithredu asesiadau digidol mewn cymwysterau TGAU newydd. Bydd y sefydliadau yn ymgysylltu ag ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i roi arweiniad a chefnogaeth, ac ymateb i adborth a mewnbwn.