Digidol i’r Dyfodol: Cyfrif lawr i'r addysgu cyntaf
Diweddariad ar gymwysterau Technoleg Ddigidol newydd gan Dean Seabrook, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Dean Seabrook, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Fis Tachwedd 2020 fe wnaethom sôn wrthych am y gwaith yr oeddem yn ei wneud i gefnogi cyflwyno'r cymwysterau Technoleg Ddigidol newydd ac fe gyhoeddom linell amser o'r cymorth oedd yn cael ei gynnig i athrawon a chanolfannau. Ers hynny, mae wedi bod yn gyfnod prysur gyda nifer o ddatblygiadau cyffrous i sôn amdanynt.
Mae llai na chwe mis bellach hyd nes y bydd ysgolion ledled Cymru yn dechrau cyflwyno'r cymhwyster TGAU Technoleg Ddigidol newydd. Mae'r cymhwyster newydd cyffrous hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau ein hadolygiad sector, Digidol i’r Dyfodol, ac yn gynwysedig mae cynnwys pwnc a thasgau ymarferol cyfredol y credwn y bydd yn hynod ddiddorol i ddysgwyr. Gallwch weld y fanyleb a'r deunyddiau ategol ar dudalen bwnc CBAC.
Rydym wedi parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, CBAC a Technocamps, i gytuno pa gymorth fydd ar gael i athrawon a chanolfannau. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â chwmnïau meddalwedd i sicrhau y bydd canolfannau'n gallu cael gafael ar y feddalwedd sydd ei hangen arnynt i gynnig y cymwysterau newydd.
Er mwyn cefnogi athrawon i gyflwyno'r pwnc newydd a chyffrous hwn, mae Technocamps wedi cynllunio rhaglen gynhwysfawr o DPP i athrawon. Bydd y rhaglen helaeth hon yn dechrau'r haf hwn a bydd yn rhad ac am ddim i athrawon yng Nghymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen DPP hon ar wefan Technocamps.
Mae CBAC wedi cynnal cyfres lwyddiannus o ddigwyddiadau 'Paratoi i Addysgu', ac fe gofrestrodd dros 200 o athrawon i fynychu, gan ddangos faint o amser y mae canolfannau'n ei ddarparu o ran y paratoadau. Maent hefyd wedi cyhoeddi canllawiau cyflwyno i ddarparu cymorth pellach wrth i athrawon baratoi ar gyfer yr addysgu cyntaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei raglen 'Adobe × Hwb', sy'n cynnig mynediad i ddysgwyr i 22 o raglenni yn ystafell Cwmwl Creadigol Adobe am gost sylweddol is i ysgolion. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni y gall dysgwyr eu defnyddio yn y tasgau ymarferol ar gyfer y cymhwyster TGAU newydd. Mae Adobe hefyd wedi lansio ei raglen Gwersyll Haf am ddim, a fydd yn dechrau ar 21 Mehefin 2021, gan gynnig cymorth i athrawon sy’n paratoi i ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd o’r gyfres gyda’u dosbarthiadau.
Mae Gemau YoYo, datblygwr meddalwedd GameMaker Studio 2, wedi arddangos ystod eang o adnoddau y gall athrawon a dysgwyr eu defnyddio. Maent hefyd yn cynnig gostyngiad ar y gost drwyddedu i ysgolion a thrwyddedau gwerthuso am ddim tan Awst 2021 i helpu athrawon i ymgyfarwyddo â'r feddalwedd.
Ar hyn o bryd mae CBAC yn datblygu'r cymhwyster TAG UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol newydd a ddylai fod ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf fis Medi 2022. Rydym yn rhagweld y byddwn yn gallu cymeradwyo'r cymhwyster hwn fis Awst eleni gan roi o leiaf 12 mis i ganolfannau baratoi i gyflwyno'r cymhwyster newydd. Rydym wedi cyhoeddi ein meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymhwyster hwn, sy'n nodi'r gofynion sylfaenol y mae'n rhaid i gorff dyfarnu eu bodloni, ynghyd â dogfen sy'n esbonio sut y gwnaethom ddatblygu'r meini prawf hyn.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Technocamps a CBAC wrth i ni nesáu at gyflwyno'r cymwysterau newydd i sicrhau bod canolfannau wedi'u paratoi'n briodol i'w cynnig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith ar y cymwysterau Technoleg Ddigidol newydd, gallwch gysylltu â ni yn datblygu@cymwysteraucymru.org.