BLOG

Cyhoeddwyd:

24.09.25

ADDYSGWYR
CANOLFANNAU
CYRFF DYFARNU

Dilysrwydd ac archwilio mewn asesiadau ar y sgrin: defnyddio GIS mewn daearyddiaeth

Mae Nathan Evans, o'n tîm moderneiddio asesiadau, yn trafod sut gellid defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) mewn asesiadau daearyddiaeth.

Mae System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn offeryn digidol a ddefnyddir i gipio, dadansoddi a delweddu data gofodol. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn sectorau fel gwyddor yr amgylchedd, cynllunio trefol a logisteg. Ym maes addysg, mae GIS yn caniatáu i ddysgwyr archwilio data’r byd go iawn trwy fapiau haenog a nodweddion rhyngweithiol, gan eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyd-destunol a sgiliau meddwl yn feirniadol.

Yn ein gweithdai cychwynnol i athrawon, darganfuom y gall defnyddio meddalwedd o safon y diwydiant fel GIS greu profiad asesu mwy gafaelgar a dilys i ddysgwyr. Er mwyn archwilio ymhellach sut y gall technolegau digidol lunio dyfodol asesu, fe wnaethom ffurfio partneriaeth ag Esri UK i ymchwilio i sut y gallai ArcGIS gefnogi profiadau asesu gafaelgar a dilys mewn Daearyddiaeth.

Gan fod manteision defnyddio GIS i gefnogi ymarferion gwaith maes neu asesiadau di-arholiad yn amlwg iawn, fe ddewison ni archwilio ei botensial i hwyluso eitemau asesu dilys a gafaelgar mewn cyd-destunau rheolaeth uchel fel arholiadau.

Dylunio asesiadau o'r gwaelod i fyny

I ymchwilio sut y gallai GIS gefnogi asesu dilys, fe wnaethom weithio gyda grŵp bach o athrawon addysg bellach o dri choleg ledled Cymru.

Yn dilyn hyfforddiant cychwynnol a gyflwynwyd gan gydweithwyr yn Esri UK, rhoddwyd mynediad i athrawon i'r platfform ArcGIS a'u gwahodd i ddylunio gweithgareddau ystafell ddosbarth gydag asesu mewn golwg. Roedd un enghraifft fanwl iawn yn canolbwyntio ar erydiad arfordirol ac fe'i strwythurwyd i gyd-fynd yn agos â thri chysyniad allweddol:

Adnabod: Cyflwynwyd map sylfaen i ddysgwyr - heb unrhyw droshaenau - a gofynnwyd iddynt ddod o hyd i nodweddion erydiad gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth bresennol yn unig.

Esboniad: Ychwanegwyd haenau sy'n dangos rheolaeth arfordirol weithredol. Archwiliodd ac eglurodd y dysgwyr pam roedd rhai ardaloedd yn dangos mwy o ymyrraeth nag eraill, gan ddefnyddio nodweddion cyd-destunol fel agosrwydd at aneddiadau a seilwaith.

Gwerthuso: Yn olaf, gofynnwyd i ddysgwyr ystyried effeithiolrwydd gwahanol strategaethau rheoli arfordirol. Fe wnaethant dynnu ar dystiolaeth yn seiliedig ar fapiau a gwybodaeth ddaearyddol ehangach (e.e. cyfeiriad y gwynt, ynni tonnau, morffoleg arfordirol) i gefnogi eu gwerthusiadau.

Dyluniwyd y cynnydd hwn - adnabod, esbonio, gwerthuso - yn fwriadol i adlewyrchu strwythurau asesu nodweddiadol. Roedd y gweithgaredd yn annog dysgwyr i gymhwyso gwybodaeth, dadansoddi data gofodol, a chyfiawnhau eu meddwl gan ddefnyddio tystiolaeth o'r byd go iawn.

Er bod y gweithgaredd wedi'i gyflwyno yn yr ystafell ddosbarth, nododd yr athro pa mor hawdd y gellid ei addasu ar gyfer asesiad ar y sgrin, â rheolaeth uchel. Gallai dysgwyr, er enghraifft, gyflwyno sgrinluniau wedi'u hanodi fel rhan o'u hymatebion, neu ymateb i awgrymiadau strwythuredig yn seiliedig ar eu hymchwiliad. Mae'r math hwn o hyblygrwydd yn addas iawn i gyd-destunau asesu digidol, lle gall casglu tystiolaeth fod yn strwythuredig ac yn rhyngweithiol.

Newid mewn ymarfer

Wrth drafod yr ymarfer ar ôl ei ddefnyddio gyda dysgwyr, nododd yr athro y byddai'r pwnc hwn wedi cael ei addysgu trwy ddarlithoedd ac ymarferion mewn gwerslyfrau yn flaenorol. Mewn cyferbyniad, mae defnyddio GIS yn creu profiad mwy rhyngweithiol ac ymchwiliol. Dywedodd darlithwyr wrthym eu bod yn teimlo bod dysgwyr yn archwilio'r deunydd yn annibynnol, yn ymgysylltu'n ddyfnach â'r cynnwys, ac yn dangos dealltwriaeth gryfach o sut mae cysyniadau damcaniaethol yn berthnasol i leoedd go iawn.

Tynnodd yr athro sylw hefyd at ba mor syml oedd defnyddio ArcGIS ar ôl iddynt gwblhau sesiwn hyfforddi fer. Daeth llywio'r system, dod o hyd i adnoddau priodol, ac adeiladu deunyddiau dysgu yn hylaw ac yn bwrpasol.

Yn dilyn y gweithgaredd, nododd yr athro newid sylweddol yn eu hymarfer ystafell ddosbarth wrth fynd ymlaen. Maent bellach yn bwriadu integreiddio GIS mewn mwy o wersi ac ailgynllunio gweithgareddau lluosog i fanteisio ar alluoedd y platfform. Nodwyd nad oedd y newid hwn yn ymwneud ag ennyn diddordeb dysgwyr yn unig - roedd yn ymwneud â defnyddio offer digidol i roi profiadau dysgu mwy ystyrlon a dilys sy'n cyd-fynd â ffyrdd effeithiol i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth.

Barn y dysgwyr

Roedd adborth y dysgwyr yn gadarnhaol ar y cyfan. Roedd llawer ohonynt yn teimlo bod defnyddio'r feddalwedd yn ddefnyddiol ac yn afaelgar, gan werthfawrogi sut yr helpodd y GIS nhw i ddelweddu patrymau daearyddol a chymhwyso eu gwybodaeth. Roedd y nodweddion rhyngweithiol yn cefnogi ymholiad annibynnol ac yn gwneud syniadau haniaethol yn fwy diriaethol. Er bod dewisiadau’n amrywio, dywedodd y rhan fwyaf o ddysgwyr y byddent yn hapus i ddefnyddio GIS eto.

Fe wnaeth y profiad hefyd dynnu sylw at werth defnyddio offer digidol sy'n adlewyrchu ymarfer yn y byd go iawn. Rhoddodd dilysrwydd y feddalwedd fwy o berthnasedd i'r asesiad ac anogodd ddysgwyr i ymwneud â'r deunydd mewn ffordd bwrpasol.

Goblygiadau ar gyfer dylunio asesiadau

Mae adborth o'r gweithgaredd hwn yn tynnu sylw at sut y gall y defnydd o offer digidol arbenigol wella dilysrwydd asesiadau. Yn yr enghraifft hon, galluogodd ArcGIS ddysgwyr i ddangos gwybodaeth gymhwysol mewn cyd-destunau realistig, cyfoethog o ran data, gan gefnogi cynhyrchu tystiolaeth ystyrlon a dilys sy'n cryfhau'r cysylltiad rhwng yr hyn sy'n cael ei asesu a sut y defnyddir yr wybodaeth honno’n ymarferol.

Mae'r strwythur a ddefnyddir yn y dasg erydu arfordirol - adnabod, esbonio, gwerthuso - yn gweddu'n dda i ddulliau asesu cyfarwydd, ac mae'r amgylchedd digidol yn rhoi'r offer sydd eu hangen ar ddysgwyr i gwblhau pob cam yn annibynnol. Mae hefyd yn agor y drws ar gyfer mathau newydd o ymateb: o ddelweddau anodedig a dadansoddi haenog i arteffactau digidol integredig.

Yn bwysicaf oll, dangosodd y gweithgaredd y gall asesu digidol fod yn hylaw ac yn ystyrlon. Trwy seilio'r asesiad ar dasg ddilys, defnyddio meddalwedd o safon y diwydiant, a'i gysoni â nodau asesu clir, cynigiodd y gweithgaredd fodel y gellid ei ddatblygu ymhellach ar gyfer arholiadau digidol rheolaeth uchel.

I drio'r ymarfer ar eich cyfer eich hun, defnyddiwch y ddolen yma.