BLOG

Cyhoeddwyd:

13.11.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Disgwyl i TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol fod yn llwyddiant ysgubol

Dyma’r Rheolwr Cymwysterau, Sarah Watson, i gyflwyno'r cymhwyster TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol a Ffilm newydd. Mae hi’n ystyried yr agweddau allweddol y gall athrawon a dysgwyr ddisgwyl eu gweld yn y fanyleb newydd.

Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau
Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau

Mewn byd sy'n datblygu'n gyflym, lle mae sgriniau’n dod yn bwysicach ac yn bwysicach yn ein bywydau bob dydd, mae pobl ifanc yn defnyddio cyfryngau digidol ac yn ei greu hefyd. Dyna pam mae'r cymhwyster TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol newydd yn ddatblygiad mor gyffrous. 

Dyma gymhwyster newydd sbon sydd wedi’i ddatblygu gan CBAC i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol yn disodli’r hen gymwysterau TGAU Astudio’r Cyfryngau a TGAU Astudiaethau Ffilm. Mae'n cyfuno'r gorau o'r ddau fyd, gan alluogi dysgwyr i archwilio, i ddadansoddi ac i gynhyrchu cynnwys digidol a fydd yn dylanwadu ar dirwedd cyfryngau a ffilm sy'n esblygu trwy’r adeg.

Yn anad dim, mae'r cymhwyster newydd yn gosod creadigrwydd digidol ar yr un lefel â’r disgyblaethau celfyddydau mynegiannol eraill, megis cerddoriaeth, drama a chelf. Mae hyn yn cydnabod sut mae sianeli digidol wedi ein symud oddi wrth y dulliau traddodiadol o greu ac o rannu cynnyrch creadigol. 

Taith greadigol unigryw

Mae'r cymhwyster ffilm a chyfryngau digidol newydd yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu creadigrwydd a'u harloesedd ochr yn ochr â sgiliau trawsgwricwlaidd eraill, megis meddwl yn feirniadol a datrys problemau. Bydd dysgwyr yn cael profiad uniongyrchol o sut mae'r cyfryngau hyn yn gweithio, sut maen nhw'n siapio'r byd o'n cwmpas, a sut mae mynd ati i greu eu cynnyrch eu hunain. 

Bydd dysgwyr yn ymchwilio i iaith y cyfryngau, gan gynnwys sut mae delweddau, sain, gwaith golygu a naratif yn cael eu cyfuno i greu ystyr. Byddan nhw’n edrych ar wahanol genres, cynulleidfaoedd a chynrychiolaeth, ac yn ystyried sut mae'r cyfryngau’n adlewyrchu ac yn dylanwadu ar gymdeithas.

Ac nid dim ond gwaith damcaniaethol yw hyn. 

Mae'r cwrs yn rhoi pwyslais cryf ar gynhyrchu ymarferol, gan roi cyfle i ddysgwyr greu eu cynnyrch cyfryngau digidol eu hunain. Gallai hyn olygu ffilm fer, podlediad neu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fynegi eu syniadau ac i ddatblygu sgiliau creadigol a thechnegol gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant.

Wedi'i ddylunio ar gyfer dyfodol digidol

Os yw’ch dysgwyr yn ystyried gwneud astudiaethau pellach yn y cyfryngau, ffilm neu gynhyrchu digidol, neu eisiau sgiliau trosglwyddadwy i ddatblygu gyrfaoedd mewn sectorau eraill, bydd TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol yn cefnogi eu camau nesaf tuag at ddyfodol digidol.

Cymerwyd gofal wrth greu’r cymhwyster er mwyn sicrhau ei fod yn ysbrydoli ac yn hygyrch i ddysgwyr heddiw. Mae'n cydnabod y cyfoeth o gyfryngau sydd yn yr amgylchedd maen nhw’n byw ynddo, ac yn manteisio ar ddiddordebau a phrofiadau presennol dysgwyr. 

Mae'r cymhwyster wedi'i strwythuro'n dair uned hygyrch a hydrin:

  • Uned 1: Archwilio materion a chysyniadau allweddol. Bydd dysgwyr yn archwilio sut mae ystyr yn cael ei greu trwy iaith y cyfryngau a sut mae cynrychiolaeth yn cael ei lunio ar draws gwahanol ffurfiau.
  • Uned 2: Strategaethau dosbarthu ac arddangos diwydiannau ffilm a chyfryngau digidol yng Nghymru. Daw dysgwyr i ddeall sut mae cynhyrchion y cyfryngau yn cael eu siapio gan arferion y diwydiant i dargedu ac i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd.
  • Uned 3: Creu cynnwys ffilm a chyfryngau digidol. Bydd athrawon yn tywys myfyrwyr trwy’r gwaith o ymchwilio, cynllunio, cynhyrchu a gwerthuso eu cynhyrchion digidol eu hunain ar gyfer y cyfryngau mewn ymateb i friff.

Mae'r model asesu yn cydbwyso arholiadau ac asesiadau di-arholiad er mwyn caniatáu i ystod amrywiol o ddysgwyr arddangos eu potensial i greu cynnwys digidol o safon. 

Cymorth i athrawon

Er mwyn helpu canolfannau i baratoi ar gyfer addysgu’r cymhwyster am y tro cyntaf, bydd CBAC yn darparu cyfres o adnoddau digidol dwyieithog a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Bydd y rhain yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r cymhwyster yn effeithiol gyda'r nod o helpu athrawon i deimlo'n hyderus wrth arwain dysgwyr drwy'r cymhwyster newydd cyffrous hwn – beth bynnag fo'u cefndir.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael ar wefan CBAC.