NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

02.10.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Diweddariad Iaith Arwyddion Prydain

Mae cyfathrebu’n glir ac yn hyderus yn hanfodol i ddysgwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen i astudiaethau pellach a chyflogaeth. 

Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod y bydd astudio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) rhwng 14 ac 16 oed yn rhoi sgil bywyd hanfodol i ddysgwyr, sy'n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr ac aelodau o'r gymuned Fyddar.  

O 2027 ymlaen, bydd dysgwyr yng Nghymru’n cael cyfle i astudio Iaith Arwyddion Prydain fel rhan o'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol newydd. Bydd unedau Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn ein cymhwyster Sgiliau am Oes newydd. Bydd y rhain yn galluogi ysgolion ledled y wlad i gynnig cymwysterau sy'n cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, gyda mwy o ddysgwyr yn gallu datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol mewn lleoliadau bob dydd.  

Bydd y cynnig newydd cyffrous hwn yn caniatáu dysgwyr i gael mynediad at y sgil bywyd cynhwysol a phwysig hwn a chynyddu eu gallu a’u hyder wrth gyfathrebu â’r gymuned Fyddar. 

Bydd yr unedau Iaith Arwyddion Prydain (o lefel mynediad i lefel 2) yn cynnig ffordd afaelgar i ddysgwyr arddangos eu sgiliau cyfathrebu ymarferol mewn Iaith Arwyddion Prydain. Bydd yr unedau’n hawdd i ysgolion eu rheoli a byddan nhw’n addas ar gyfer dysgu peripatetig, gan wneud defnydd da o’r gweithlu athrawon presennol. 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai TGAU newydd mewn Iaith Arwyddion Prydain (fel rhan o'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol) hefyd ar gael o 2027. Fodd bynnag, roedd datblygu'r cymhwyster hwn yn dal i beri llawer o heriau ymarferol i'r sector addysg yn ei gyfanrwydd. Felly, ar ôl ystyried yn ofalus, mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal datblygiad y cymhwyster TGAU Gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain.  

Roedd y TGAU oedd am gael ei ddatblygu wedi ei fwriadu ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed oedd yn astudio Iaith Arwyddion Prydain am y tro cyntaf. Rydym wedi cydnabod yn flaenorol efallai nad oedd hwn yn TGAU addas ar gyfer defnyddwyr rhugl a hyderus mewn Iaith Arwyddion Prydain.

Gan ddibynnu ar lwyddiant yr unedau Iaith Arwyddion Prydain newydd yn ein cymhwyster Sgiliau am Oes a’r nifer sy’n manteisio arnyn nhw, bydd Cymwysterau Cymru yn ystyried, dros amser, a ddylid ehangu’r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol ymhellach i gynnwys TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer Cymru. Yn y cyfamser, bydd cyrff dyfarnu sy'n datblygu'r TGAU Iaith Arwyddion Prydain yn Lloegr yn gallu gwneud cais i gael y cymhwyster hwn wedi'i ddynodi i'w ddefnyddio gan ddysgwyr yng Nghymru.