NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

02.10.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Diweddariad Iaith Arwyddion Prydain - 10 Rhagfyr 2024  

Mae cyfathrebu’n glir ac yn hyderus yn hanfodol i ddysgwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen i astudiaethau pellach a chyflogaeth. 

Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod y gall dysgwyr sy’n astudio Iaith Arwyddion Prydain rhwng 14 a 16 oed ennill sgìl bywyd hanfodol, sy’n cael ei gwerthfawrogi gan gyflogwyr a chan aelodau o'r gymuned Fyddar. Un o amcanion Cymwysterau Cymru yn ei gwaith i ddiwygio TGAU oedd cael TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael erbyn 2027, a hynny o fewn y cynnig newydd o Gymwysterau Cenedlaethol.   

Ar ôl gwaith cwmpasu manwl ac ystyriaeth ofalus o’r heriau parhaus, ym mis Hydref 2024 penderfynwyd atal datblygiad y TGAU hwn, a chynnig yn hytrach gyfle i ddysgwyr astudio BSL fel rhan o gymhwyster Sgiliau Bywyd newydd. Bydd y cymhwyster hwn ar gael ym mhob ysgol o fis Medi 2027 ymlaen.   

Bydd yr ystod o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr Byddar ar hyn o bryd, a gynigir gan gorff dyfarnu Signature, yn parhau i gael eu dynodi i'w defnyddio yng Nghymru͏ – gan gynnwys y cymwysterau hynny sy'n debyg i'r TGAU. Bydd hyn yn sicrhau y gall yr ychydig ddysgwyr sy'n dewis cymryd y cymwysterau hyn bob blwyddyn barhau i wneud hynny.     

Cefndir  

O’r dechrau, bu dull Cymwysterau Cymru o ddatblygu TGAU Gwneud-i-Gymru mewn BSL yn wahanol i’w gwaith tebyg gyda phynciau eraill. Y rheswm dros hyn oedd er mwyn caniatáu mwy o amser i weithio gyda grŵp cynghori arbenigol – a oedd yn cynnwys uwch-academydd mewn iaith arwyddion ac astudiaethau byddar, athrawon plant a phobl ifanc byddar, a pherchennog cwmni sy'n cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod a chefnogaeth gyda BSL.  

Trwy wneud gwaith ymchwil ac ymgysylltu â'r grŵp hwn, ymysg eraill, daeth yn fwyfwy amlwg y dylid anelu'r TGAU hwn at y rhai sy'n dysgu BSL am y tro cyntaf. Er na fyddai hyn yn atal dysgwyr byddar sy'n cyfathrebu'n bennaf drwy BSL rhag cymryd y TGAU (yn yr un modd â dysgwr dwyieithog sy'n sefyll TGAU iaith dramor fodern), nid nhw oedd y garfan darged. Gwnaed penderfyniad tebyg ynglŷn â’r TGAU mewn BSL sy'n cael ei ddatblygu yn Lloegr.  

Wrth drafod â rhanddeiliaid, daeth yn amlwg bod llawer o heriau ymarferol wrth ddatblygu’r cymhwyster hwn yn y sector addysg yng Nghymru. Yn benodol, nid oes gweithlu parod o athrawon cymwys a allai ddysgu TGAU yn y pwnc hwn. Dyma bryder dilys a sylweddol i lawer o fewn cymunedau BSL ac ysgolion.   

Fe gawsom sylwadau hefyd gan y gymuned Fyddar yn dweud mai dim ond athrawon Byddar ddylai addysgu. Ychydig iawn o athrawon BSL sydd â chymhwyster addysgu, ac ychydig iawn o athrawon cymwys sy'n gallu addysgu BSL. Yn ystod ymgysylltiad rheolaidd Cymwysterau Cymru â phenaethiaid, ni soniodd yr un ohonynt eu bod yn bwriadu cynnig TGAU mewn BSL yn eu hysgolion.  

Her arall yw diffyg ystorfa swyddogol nac ychwaith 'eiriadur' swyddogol ar gyfer BSL yng Nghymru ar hyn o bryd, pethau sy’n angenrheidiol wrth gefnogi addysgu a dysgu cyson. Yn wahanol i wledydd eraill y DU, nid oes gan Gymru ffordd ganolog o ddatblygu arwyddion newydd.  

Gyda'i gilydd, mae'r pryderon hyn yn creu heriau sylweddol i’r gwaith o gefnogi ac o reoli cyflwyno’r TGAU arfaethedig. Heb y gweithlu na’r adnoddau angenrheidiol, a heb sicrwydd y byddai'r rhain i’w cael yn y dyfodol, nid oedd parhau i ddatblygu TGAU mewn BSL yn ymarferol.   

Mae Cymwysterau Cymru yn hyderu y bydd unedau BSL y cymhwyster Sgiliau Bywyd newydd yn gyflwyniad addas i'r dysgwyr hynny a dargedwyd gan y TGAU arfaethedig. Bydd yr unedau BSL (o Lefel Mynediad i Lefel 2) hefyd yn galluogi mwy o ddysgwyr i astudio'r pwnc o gymharu â chymhwyster TGAU llawn sydd angen 120–140 o oriau dysgu dan arweiniad – gan olygu y bydd gan fwy o ddysgwyr fynediad at y sgìl bywyd bwysig a chynhwysol hon. Bydd yn hawdd i ysgolion reoli’r unedau hyn, a byddan nhw’n addas ar gyfer dysgu peripatetig, gan wneud defnydd da o’r gweithlu presennol o athrawon.  

Yn dibynnu ar gyflwyno’r unedau BSL yn llwyddiannus, a’u bod yn cael eu cymryd gan ddysgwyr, a bod sicrwydd boddhaol y gellir goresgyn yr heriau o’u cyflwyno, bydd Cymwysterau Cymru yn ystyried, mewn amser, a ellid ehangu'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol i gynnwys TGAU mewn BSL wedi'i gynllunio ar gyfer Cymru yn benodol.  

Yn y cyfamser, gall y cyrff dyfarnu sy'n datblygu'r TGAU BSL yn Lloegr wneud cais i ddynodi’r cymhwyster hwn i'w ddefnyddio gan ddysgwyr yng Nghymru.