Diweddariad TGAU gwyddoniaeth
Yn dilyn ymgysylltiad CBAC â rhanddeiliaid, mae diweddariad ar gael sy'n ymwneud â'r cymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar wahân cyfredol.
Ym mis Medi 2025, fe gyhoeddom ein penderfyniad i gynnal ymgynghoriad pellach yn hydref 2028 ar yr ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth a fydd ar gael yn y dyfodol. Roedd hyn mewn ymateb i anghytuno parhaus gan randdeiliaid.
Fe wnaethom hefyd gadarnhau y byddai'r TGAU presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg yn parhau i fod ar gael fel pynciau ar wahân tan o leiaf haf 2031.
Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, mae CBAC wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu eu hadborth ac i weld pa mor gefnogol fyddan nhw o ddiwygiadau posibl i fanylebau’r cymwysterau gwyddoniaeth ar wahân presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg.
Yn ddiweddar, cadarnhaodd CBAC ei benderfyniad i ddiwygio'r asesiad ymarferol yn y manylebau bioleg, cemeg a ffiseg presennol. Diben hyn yw unioni’r asesiad â’r dull ymholiad gwyddonol sydd i’w gael yn y cymwysterau TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) a TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) newydd.
Bydd y diwygiadau hyn yn helpu i gefnogi addysgu a dysgu yn unol â Fframwaith Cenedlaethol y Cwricwlwm i Gymru . Byddany diwygiadau hefyd yn cefnogi hydrinedd i ganolfannau gan y bydd pob dysgwr sy'n astudio TGAU gwyddoniaeth yn sefyll asesiad o ymholiad gwyddonol sy'n gyson o ran dull.
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau Blwyddyn 10 ym mis Medi 2026. Dyma pryd fydd y cymwysterau TGAU Y Gwyddorau a TGAU Gwyddoniaeth Integredig newydd ar gael ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf hefyd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda CBAC i gymeradwyo'r newidiadau hyn i'r cymwysterau er mwyn i’r manylebau diwygiedig fod ar gael cyn gynted ag sy’n bosibl. Bydd y cymwysterau diwygiedig hyn yn parhau i fod ar gael tan o leiaf haf 2031.
Mae CBAC wedi amlinellu pecyn cymorth cynhwysfawr i ganolfannau dros y misoedd nesaf i helpu athrawon i baratoi ar gyfer cyflwyno'r TGAU gwyddoniaeth newydd a diwygiedig.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i gadarnhau'r amserlen ar gyfer gweithredu TGAU gwyddoniaeth a'r ymgynghoriad yn y dyfodol. Mae amlinelliad ohono i’w weld yn y diagram isod.

Cwestiynau cyffredin
|
1. Pa gymwysterau TGAU gwyddoniaeth y bydd canolfannau yn gallu eu cynnig o fis Medi 2026 ymlaen? |
|---|
|
O fis Medi 2026 ymlaen, bydd canolfannau’n gallu dewis o blith y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth cymeradwy canlynol:
Byddwn yn ymgynghori eto ar yr ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar gyfer y dyfodol yn hydref 2028. Byddwn yn cadarnhau'r ystod o TGAU gwyddoniaeth ar gyfer y dyfodol yng ngwanwyn 2029. Bydd unrhyw newidiadau i'r ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn yn dod i rym i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2031. |
|
2. A fydd unrhyw ddiwygiadau i TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) a TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) yn awr y bydd y TGAU gwyddoniaeth ar wahân yn parhau i fod ar gael fel mesur dros dro? |
|---|
|
Na, mae TGAU Gwyddorau (Dwyradd) a TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) wedi'u cymeradwyo. Bydd CBAC yn cyhoeddi manylebau terfynol ar gyfer y cymwysterau hyn ddiwedd mis Medi 2025. Nid yw argaeledd TGAU gwyddoniaeth ar wahân, fel mesur dros dro, yn golygu bod angen unrhyw newidiadau i'r cymwysterau hyn. Byddant yn parhau i fod ar gael ar gyfer addysgu cyntaf o fis Medi 2026. |
|
3. Pam mae'r penderfyniad hwn i ymgynghori eto ar yr ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth, ac ymestyn argaeledd TGAU gwyddoniaeth ar wahân fel mesur interim, wedi'i wneud nawr? |
|---|
|
Rydyn ni’n gwybod bod barn wahanol ymhlith rhanddeiliaid ar argaeledd TGAU gwyddoniaeth ar wahân mewn bioleg, cemeg a ffiseg.
Ar ôl ystyried yn ofalus, rydyn ni wedi penderfynu mai'r ffordd orau o weithredu ar hyn o bryd yw cynnal ymgynghoriad ychwanegol ar yr ystod o TGAU gwyddoniaeth ddylai fod ar gael yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn hydref 2028 unwaith y bydd y cymhwyster TGAU gwyddoniaeth newydd wedi cael cyfle i ennill ei blwyf. Bydd unrhyw newidiadau i'r ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn yn dod i rym i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2031.
Rydyn ni’n cyhoeddi'r penderfyniad hwn nawr gan y bydd y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd yn cael eu haddysgu gyntaf ym mis Medi 2026 ac mae hyn yn rhoi blwyddyn lawn i ganolfannau baratoi eu cynnig gwyddoniaeth newydd i'w dysgwyr. |
|
4. Beth fydd effaith y penderfyniad hwn ar ysgolion? |
|---|
|
Yr ysgolion fydd yn penderfynu pa lwybr yw’r un gorau i'w dysgwyr. Yn hynny o beth, gall ysgolion barhau i ddewis pa gymwysterau TGAU gwyddoniaeth yr hoffen nhw eu cynnig i'w dysgwyr. Maen nhw wedi arfer gwneud penderfyniadau o'r fath i ddiwallu anghenion eu dysgwyr, eu cyd-destun lleol a'u cynlluniau cwricwlwm eu hunain.
Rydyn ni’n gwybod y gallai rhai ysgolion fod wedi dechrau cynllunio eu cynnig gwyddoniaeth ar gyfer mis Medi 2026 ymlaen yn barod. Rydyn ni’n cyhoeddi'r penderfyniad hwn nawr gan y bydd y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd yn cael eu haddysgu gyntaf ym mis Medi 2026 ac mae hyn yn rhoi blwyddyn lawn i ganolfannau baratoi eu cynnig gwyddoniaeth newydd i'w dysgwyr. |
|
5. Pa gymwysterau TGAU gwyddoniaeth fydd yn darparu'r dilyniant gorau i UG a Safon Uwch mewn bioleg, cemeg a ffiseg? |
|---|
|
Mae'r TGAU newydd yn Y Gwyddorau (Dwyradd) a'r cymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar wahân presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg wedi'u dylunio i gefnogi dilyniant i UG a Safon Uwch mewn bioleg, cemeg a ffiseg. Bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gymwysterau gwyddoniaeth UG a Safon Uwch ar ôl dilyn y naill neu'r llall o'r llwybrau gwyddoniaeth hyn ar gyfer TGAU. |
|
6. A fydd CBAC yn diweddaru'r TGAU gwyddoniaeth ar wahân presennol i gyd-fynd â'r cwricwlwm? |
|---|
|
Yn dilyn gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyhoeddodd CBAC ei benderfyniad i ddiwygio'r asesiad ymarferol yn y manylebau bioleg, cemeg a ffiseg presennol. Maen nhw’n gwneud hyn fod er mwyn ei unioni â’r dull ymholiad gwyddonol sydd i’w gael yn y cymwysterau TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) a TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) newydd.
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau Blwyddyn 10 ym mis Medi 2026. Dyma pryd fydd y cymwysterau TGAU Y Gwyddorau a TGAU Gwyddoniaeth Integredig newydd ar gael ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf hefyd.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda CBAC i gymeradwyo'r newidiadau hyn i'r cymwysterau er mwyn i’r manylebau diwygiedig fod ar gael i ganolfannau mewn da bryd. Bydd y cymwysterau diwygiedig hyn yn parhau i fod ar gael tan o leiaf haf 2031. |
|
7. Beth yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â pha gymwysterau TGAU gwyddoniaeth ddylai ysgol eu cynnig? |
|---|
|
Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei chanllawiau statudol ar ddysgu 14 i 16 oed. Fel y dywed y canllawiau ar hyn o bryd, o dan y Cwricwlwm i Gymru ym Mlynyddoedd 10 ac 11, dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn dilyn cwrs heriol, ymestynnol ac uchelgeisiol sy'n arwain at gymhwyster yn y gwyddorau. Yn unol â'r arfer presennol mewn ysgolion, i'r rhan fwyaf o ddysgwyr bydd hyn yn golygu naill ai TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) neu TGAU gwyddoniaeth ar wahân mewn bioleg, cemeg a ffiseg. |
|
8. Beth yw barn darparwyr addysg uwch ar argaeledd TGAU gwyddoniaeth ar wahân? |
|---|
|
Mae darparwyr addysg uwch, gan gynnwys prifysgolion gorau'r DU fel y rhai yng Ngrŵp Russell, wedi dweud wrthym yn gyson eu bod yn derbyn dysgwyr gydag ystod o wahanol gymwysterau TGAU gwyddoniaeth. Maen nhw wedi parhau i'n sicrhau y byddai dysgwyr sydd â TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yn cael eu derbyn ar gyrsiau sydd yn gofyn am TGAU gwyddoniaeth. |