Dod at ei gilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol i gefnogi uchelgais Cymraeg 2050
Mae Cymwysterau Cymru a'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn falch o fod yn cydweithio i ddangos y ffyrdd arloesol y maent yn cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r ddau sefydliad wedi ymrwymo i gefnogi Cymraeg 2050 ac yn cyd-gynnal digwyddiad yn gynharach heddiw gyda chydweithwyr addysg a oedd yn gallu siarad am eu gwaith yn eu canolfannau.
Rhoddodd Trystan Edwards, Pennaeth Ysgol Garth Olwg a Llinos Roberts, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg Coleg Cambria, gipolwg ar gyflawniadau a heriau hyrwyddo'r Gymraeg a chyflwyno addysg yn y Gymraeg yn eu cymunedau.
Mae galluogi'r Gymraeg i ffynnu yn ein hysgolion, colegau a chymunedau yn gofyn am yr angen i barhau i weithio mewn partneriaeth ledled Cymru i gefnogi taith Llywodraeth Cymru i filiwn o siaradwyr Cymraeg ac mae ein sefydliadau'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r nod hwn.
Dywedodd David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru:
"Mae'n wych cael cyfle i siarad â'n rhanddeiliaid a gweithio gyda'n partneriaid yn yr Eisteddfod.
"Mae'r Gymraeg yn rhan mor annatod o'n gwaith yn Cymwysterau Cymru. Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r Gymraeg ac yn falch o gyd-gynnal y digwyddiad pwysig hwn.
"Rydym am i ddysgwyr allu dilyn cymwysterau yn yr iaith o'u dewis. Fel rhan o'n gwaith diwygio cymwysterau 14-16, mae'n ofynnol i bob cymhwyster ar gyfer dysgwyr 14-16 oed fod ar gael yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym hefyd yn gyffrous am y cynnig 14-16 Cymraeg newydd a fydd yn caniatáu i ddysgwyr ddysgu a defnyddio eu Cymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth."
Dywedodd Tegwen Ellis, Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol:
"Rydym yn falch o fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto a gweithio ar y cyd â'n partneriaid o Gymwysterau Cymru. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ganolbwynt ar gyfer creadigrwydd ac yn hyrwyddo cynwysoldeb, gan ddod â chynulleidfaoedd o gefndiroedd amrywiol o bob cwr o Gymru at ei gilydd. Ar ben hynny, mae'n darparu cyfleoedd unigryw ac amhrisiadwy i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ymgysylltu â chydweithwyr ac arweinwyr addysgol. Mae ymgysylltu ag eraill a chael trafodaethau parhaus yn allweddol i gyflawni uchelgais Cymru 2050."