NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

16.04.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dweud eich Dweud ar amgylchedd adeiliedig, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, a pheirianneg

Mae Cymwysterau Cymru yn lansio ymgynghoriad ar y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn yr amgylchedd adeiledig, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, a pheirianneg.

Mae Cymwysterau Cymru eisiau eich barn ar gynnig y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn yr ‘amgylchedd adeiledig’, ‘iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant’, a ‘peirianneg’ fel cymwysterau TAAU yn hytrach na TGAU. 

Fel rhan o'n hymgynghoriad TGAU Gwneud-i-Gymru, rydym eisoes wedi cadarnhau y bydd cymwysterau TGAU ar gael yn yr amgylchedd adeiledig, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, a pheirianneg. 

Ers hynny, rydym wedi parhau i ddatblygu'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16, gan gynnwys creu brand TAAU newydd, ac rydym bellach eisiau gwybod a ydych o’r farn y byddai’r pynciau hyn, a gynigwyd fel TGAU yn wreiddiol, yn gweithio’n well fel cymwysterau TAAU. 

Am fwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad darllenwch ein dogfen ymgynghori sy'n cynnwys:  

  • trosolwg o'r ymgynghoriad 
  • y Cynnig Llawn a TAAU 
  • TGAU a TAAU 
  • effaith datblygu'r cymwysterau hyn fel TAAU 
  • brand TAAU 
  • anfanteision posibl o gyflwyno’r pynciau hyn fel TAAU 
  • ystyriaethau sy’n benodol i rai pynciau  

Ewch ati i ddweud eich dweud a chwblhau'r ymgynghoriad erbyn dydd Llun 10 Mehefin 2024.