NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

12.05.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dweud Eich Dweud ar Arholiadau Haf 2023

Mae ein harolwg ar arholiadau’r haf bellach ar agor, gallwch gymryd rhan a rhannu eich adborth. Rydyn ni eisiau clywed gan ddysgwyr, addysgwyr, rhieni, gofalwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn arholiadau’r haf yma.

Rhwng nawr a diwedd mis Mehefin, bydd dysgwyr ledled Cymru yn sefyll arholiadau ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 2 a Lefel 3, a chymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch mewn amrywiaeth o bynciau. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn am yr arholiadau yma.

Pob blwyddyn, rydyn ni‘n cynnal arolwg Dweud Eich Dweud ar Arholiadau’r Haf i gasglu adborth ar gyfres arholiadau’r haf, fel rhan o’n rôl i fonitro arholiadau yng Nghymru. Mae’r adborth a roddwch yn bwysig iawn i ni – mae’n ein galluogi i nodi unrhyw themâu allweddol sy’n codi yn ystod y gyfres arholiadau. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni o'ch profiad o'r papurau arholiad, fel y gallwn ddefnyddio hyn i lywio ein gwaith monitro yn y dyfodol.

Mae’r arolwg ar agor drwy gydol y gyfres arholiadau ac ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n cau ychydig wythnosau ar ôl yr arholiadau terfynol, ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023.

Gall ymatebwyr roi sylwadau ar unrhyw arholiad sy’n cael ei sefyll yn ystod cyfres yr haf. Dylai'r arolwg ar-lein gymryd tua phum munud i'w gwblhau ac mae'r holl ymatebion yn gwbl ddienw.

Byddwn yn monitro'r ymatebion i'r arolwg drwy gydol y gyfres, ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion yn ddiweddarach eleni, ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud:

https://dweudeichdweud.cymwysterau.cymru/dweud-eich-dweud-ar-arholiadau-haf-2023