Dweud Eich Dweud
Mae Cymwysterau Cymru’n gofyn am sylwadau gan gyrff dyfarnu, athrawon, aseswyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb ar gynigion i gyflwyno Amodau, Gofynion a Chanllawiau newydd i gyrff cyhoeddus.
Byddai’r Amodau a’r Gofynion arfaethedig yn golygu’r canlynol:
- bod angen i bob corff dyfarnu cyhoeddus gyhoeddi datganiad polisi’n nodi a yw’n sicrhau neu’n bwriadu sicrhau bod cymwysterau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg; a
- bod gofyn i unrhyw gorff dyfarnu cydnabyddedig sy’n cynnig cymwysterau cyfrwng Cymraeg hyrwyddo eu hargaeledd a hwyluso mynediad iddyn nhw.
Mae’r cynigion hyn wedi eu cynllunio i wella eglurder ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg. Mae Cymwysterau Cymru eisiau ei gwneud hi’n haws i ddysgwyr, ysgolion a cholegau gael mynediad i wybodaeth ar argaeledd y cymwysterau hyn fel y gallan nhw wneud dewisiadau gwybodus.
Mae’n bwysig bod cyrff dyfarnu’n adnabod ac yn nodi’r rhwystrau posibl rhag cael mynediad i gymwysterau cyfrwng Cymraeg ac yn gweithio tuag at eu lleihau. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i gymryd cymwysterau ac asesiadau yn eu hiaith ddewisol.
Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio sgwrs genedlaethol i roi cyfle i bobl yng Nghymru ‘ddweud eu dweud’ ar rai newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae cyrff dyfarnu’n hyrwyddo cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i bawb yng Nghymru ddweud eu dweud; bydd eich barn yn help i Cymwysterau Cymru benderfynu ar y dull rheoleiddiol mwyaf priodol i’w gymryd.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae angen i chi gofrestru ar lwyfan ymgysylltu newydd Dweud Eich Dweud Cymwysterau Cymru er mwyn ymateb i’r cynigion ar-lein.
Wrth siarad am lansiad yr ymgynghoriad, meddai David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru:
“Rydyn ni eisiau annog dysgwyr, ysgolion a cholegau i ddilyn cymwysterau cyfrwng Cymraeg, felly mae hyn yn golygu darparu dewis a’i gwneud hi’n hawdd dod o hyd i wybodaeth am y cymwysterau hyn. Dylai pawb allu gwneud penderfyniad gwybodus wrth ddewis eu cymwysterau. Yn ogystal â hyn, rydyn ni eisiau i gyrff dyfarnu adnabod a nodi unrhyw rwystrau sy’n atal dysgwyr rhag cael mynediad i’w cymwysterau cyfrwng Cymraeg fel y gallwn ni weithredu gyda’n gilydd i gael gwared ar y rhwystrau hynny.
Mae hyrwyddo argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfle i gyrff dyfarnu gynyddu’r galw am y cymwysterau hynny. Dylai hyn sbarduno mwy o alw a gall pawb elwa o hyn, gan gynnwys cyflogwyr.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i bawb yng Nghymru gael dweud eu dweud a’n helpu i ffurfio’r dulliau o hyrwyddo cymwysterau cyfrwng Cymraeg. Er y bydd o ddiddordeb penodol i gyrff dyfarnu, mae’n bwysig iawn bod dysgwyr, ysgolion a cholegau’n rhannu eu barn a’u syniadau ynglŷn â sut y dylai cyrff dyfarnu hyrwyddo argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.”
Er mwyn cymryd rhan a dweud eich dweud, ewch i: https://dweudeichdweud.cymwysterau.cymru/hub-page/hyrwyddo-a-hwyluso-argaeledd-cymwysterau-cyfrwng-cymraeg