BLOG

Cyhoeddwyd:

13.10.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID
CANOLFANNAU

Dychwelyd i safonau TGAU, UG a Safon Uwch cyn y pandemig

Mae’r flwyddyn academaidd newydd wedi hen ddechrau, ac mae dysgwyr ledled Cymru yn brysur wrth iddyn nhw barhau, neu ddechrau, astudio ar gyfer eu cymwysterau. Yn y darn hwn, mae Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, yn sôn am ddychwelyd i drefniadau asesu cyn y pandemig yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd hon.

Bydd y rhai sy’n sefyll cymwysterau yn 2024 yn awyddus i wybod mwy am yr hyn a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd hon wrth inni ddychwelyd i’r trefniadau arferol. 

Bydd cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau a gymerir ym mis Tachwedd 2023, mis Ionawr 2024 a’r haf nesaf yn dychwelyd i ddulliau cyn y pandemig, gan gwblhau’r daith arfaethedig rydym wedi’i dechrau ers i drefniadau amgen gael eu rhoi ar waith ar gyfer y pandemig. Mae hyn yn golygu na fydd CBAC yn darparu gwybodaeth ymlaen llaw cyn yr arholiadau. Ni fydd polisi graddio bras hanner ffordd ychwaith, fel yr oedd yn 2022 a 2023. 

 

Pam ydym ni'n dychwelyd at drefniadau cyn y pandemig ar gyfer cymwysterau? 

Rhwng 2019 a 2023, cawsom nifer o flynyddoedd o drefniadau amgen oherwydd y pandemig. Yn ystod 2019-2020 a 2020-2021, cafodd arholiadau eu canslo a chafodd dysgwyr raddau a bennwyd gan eu hysgol neu goleg. Yn 2021-2022 a 2022-2023 gwelsom arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn dychwelyd, ond gyda chymorth ar waith i ddysgwyr er mwyn lleihau’r cynnwys yr oedd angen ei astudio neu roi cipolwg ar y prif bynciau a fyddai’n cael eu harholi a pholisi graddio hael. 

Darparodd y dulliau graddio bras hanner ffordd dros y ddwy flynedd ddiwethaf fecanwaith y gellid ei ddefnyddio i ailsefydlu safonau dros amser. Fodd bynnag, ni allem gynnal safonau yn y ffordd arferol. Mae dychwelyd i drefniadau arferol yn ein helpu i ddiogelu gwerth hirdymor graddau dysgwyr a chadw hyder yn ein system gymwysterau. 

Mae ein hymagwedd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn cyd-fynd â dulliau gweithredu ar draws gweddill y DU, sy'n bwysig er mwyn sicrhau bod cymwysterau o'r un gwerth â'r rhai a gymerir mewn rhannau eraill o'r DU. 

  

Beth mae hyn yn ei olygu o ran graddio? 


Yn 2024, bydd ffiniau graddau’n cael eu gosod i gyflawni (cyn belled ag y bo modd) canlyniadau sy'n debyg yn fras i'r canlyniadau o 2019 – gan dybio nad oes unrhyw newidiadau sylweddol yng nghyfansoddiad y garfan. Bydd CBAC, y corff dyfarnu, yn gweithredu hyn drwy ei broses ddyfarnu, pan fydd pwyllgorau dyfarnu yn argymell ffiniau graddau ar raddau allweddol. Bydd ystadegau’n cael eu defnyddio i gefnogi pwyllgorau wrth iddyn nhw ddechrau barnu gwaith dysgwyr drwy awgrymu ystod o farciau ffiniau graddau a fyddai’n osgoi cwympiadau sylweddol o dan y blynyddoedd cyn y pandemig. 

 

Beth mae hyn yn ei olygu o ran ‘safonau’? 

Perfformiad yw'r hyn y mae dysgwyr yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud i ennill gradd benodol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf nid yw canlyniadau wedi'u meincnodi yn erbyn safonau cyn y pandemig fel y byddent fel arfer. Er bod adferiad yn digwydd, mae risg o hyd nad yw perfformiad dysgwyr mewn rhai pynciau wedi gwella'n llwyr ers y pandemig. Os yw perfformiad dysgwyr yn wannach mewn rhai pynciau yn 2024 o gymharu â blynyddoedd cyn y pandemig, gallai hynny olygu y byddai canlyniadau (graddau) ar lefel genedlaethol yn disgyn yn is na rhai 2019. 

Bydd defnyddio ystadegau’n helpu i amddiffyn dysgwyr rhag canlyniadau sy'n sylweddol is na 2019. Nid yw'r amddiffyniad ystadegol hwn wedi'i gynllunio i roi cap ar gyflawniad, mae'n golygu bod rhywfaint o amddiffyniad ar waith i ddysgwyr, er mwyn darparu rhwyd ​​ddiogelwch. Mae hyn yn bwysig er tegwch gan ein bod yn gwybod bod y pandemig wedi cael effaith hirdymor ar ddysgu i rai. 

 

Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion a cholegau? 

Ar ddechrau’r tymor hwn, gwnaethom ysgrifennu at bob ysgol a choleg gyda manylion y trefniadau a’r dull graddio ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Mae'n bwysig bod ysgolion a cholegau'n ymwybodol o'r dull graddio ar gyfer eleni, er mwyn eu helpu i gyfathrebu â dysgwyr a phenderfynu ar y graddau a ragwelir ar gyfer ceisiadau prifysgol. 

Gwyddom fod ysgolion a cholegau yn aml yn defnyddio cyn-bapurau i helpu dysgwyr gydag adolygu a ffug arholiadau. Felly, mae’n bwysig cofio bod ffiniau graddau’n is nag arfer yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf er mwyn cyflawni canlyniadau a oedd ychydig yn uwch na’r rhai cyn y pandemig, a dylid cymryd hynny i ystyriaeth wrth ddefnyddio cyn-bapurau o 2022 a 2023 i asesu cyrhaeddiad dysgwyr a'u paratoi ar gyfer y gyfres arholiadau eleni. 

Mae ysgolion a cholegau hefyd yn brysur yn cefnogi dysgwyr gyda'u dewisiadau a'u ceisiadau ar gyfer cyrsiau addysg uwch y tymor hwn. Mae athrawon yn cynhyrchu graddau disgwyliedig ar gyfer dysgwyr fel rhan o'u ceisiadau UCAS. 

Gall fod yn anodd i athrawon ragweld graddau’n gywir. Mae data UCAS yn dangos bod graddau a ragwelwyd wedi bod yn cynyddu ac yn haf 2022 a 2023 roedd y graddau a ragwelwyd a gyflwynwyd i UCAS ar eu lefel uchaf. Byddem yn disgwyl y byddai’r graddau a ragwelir eleni yn llawer agosach at y rhai a welwyd yn y blynyddoedd cyn y pandemig, yn unol â chanllawiau UCAS. 

 

Gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru


Cyhoeddwyd y blog yma yn wreiddiol ym mis Hydref 2023 a'i ddiweddaru ym mis Awst 2024