Dylunio dyfodol newydd i ddysgwyr yfory
Yn y dyfodol, gall pobl ifanc yng Nghymru sy'n meddwl am yrfa mewn peirianneg gael cyfle i astudio'r pwnc ar gyfer TGAU newydd.
Mae peirianneg a gweithgynhyrchu yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru, gan gyflogi mwy na 165,000 o bobl o'r rhai sy'n gweithio mewn gweithdai bach i gwmnïau uwch-dechnoleg fel Airbus, Tata Steel ac Aston Martin.
Gallai TGAU newydd mewn peirianneg a gweithgynhyrchu gefnogi dibenion y cwricwlwm newydd a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022, drwy helpu i ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, mentrus a chreadigol.
Mae Cymwysterau Cymru yn cynnig TGAU newydd mewn peirianneg a gweithgynhyrchu fel rhan o gyfres newydd o gymwysterau gwyddoniaeth a thechnoleg a luniwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Yn ei ymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol, mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am farn ar y cymhwyster newydd arfaethedig. Er enghraifft, mae'r TGAU newydd yn debygol o ddisodli rhai o'r cymwysterau y mae dysgwyr yn eu hastudio ar hyn o bryd mewn pynciau sy'n ymwneud â pheirianneg a gweithgynhyrchu.
Mae'n un o nifer o gynigion a geir yn yr ymgynghoriad sy'n ceisio mapio dyfodol cymwysterau yng Nghymru. Maent yn awyddus i glywed barn addysgwyr, cyflogwyr a dysgwyr am y syniad.
Mae'r cynnig yn dilyn adolygiad manwl o'r sector gweithgynhyrchu, peirianneg ac ynni uwch a gynhaliwyd gan Gymwysterau Cymru y llynedd.
Nododd yr adolygiad fod angen meithrin mwy o ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o beirianneg a phrentisiaethau, yn enwedig mewn ysgolion, ac annog mwy o fenywod a merched i ddilyn cyrsiau sy'n gysylltiedig â pheirianneg.
Byddai'r cymhwyster newydd hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio'r cyfleoedd cyfoethog ac amrywiol a gynigir gan fyd peirianneg. Awgrymir y bydd y cynnwys yn canolbwyntio'n gryf ar asesu sgiliau ymarferol a chymhwyso gwybodaeth i sefyllfaoedd bywyd bob dydd, yn ogystal â chynnwys gwaith theori.
Mae pynciau eraill a gynigir fel rhan o'r gyfres wyddoniaeth a thechnoleg yn cynnwys TGAU yn yr Amgylchedd Adeiledig a Thechnoleg Ddigidol. Mae ymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer TGAU mewn ieithoedd, mathemateg, y dyniaethau, y celfyddydau mynegiannol ac iechyd a lles. Mae'r ymgynghoriad yn parhau tan fis Ebrill.
Gan Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru