NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

03.11.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Dysgwyr ledled Cymru yn sefyll arholiadau TGAU fis yma

Mae heddiw yn nodi dechrau cyfres arholiadau TGAU mis Tachwedd ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll papurau mewn Saesneg, Mathemateg – Rhifedd, Mathemateg a Chymraeg.

Yn Cymwysterau Cymru, rydym yn goruchwylio gwaith CBAC o gyflwyno a dyfarnu'r gyfres arholiadau er mwyn sicrhau bod ffiniau graddau yn cael eu gosod yn briodol a bod safonau'n cael eu cynnal o'r cyfresi blaenorol.  

Fel gyda phob sesiwn arholiadau, gall ffiniau graddau newid i ystyried amrywiadau yn anhawster yr arholiad, gan helpu i sicrhau tegwch i bob dysgwr. 

Dyddiadau allweddol i'w nodi:  

  • Dydd Iau 6 Tachwedd 2025 - Bydd data cofrestru ar gyfer cyfres mis Tachwedd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cymwysterau Cymru

  • Dydd Iau 8 Ionawr 2026 – Bydd dysgwyr yn derbyn canlyniadau ar gyfer arholiadau a safwyd y mis hwn 

Cymorth i ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau  

Rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i ddatblygu'r hwb cynnwys Lefel Nesa. Mae'r llwyfan hwn yn cynnig deunyddiau adolygu ac arweiniad i helpu myfyrwyr i deimlo'n hyderus ac yn barod ar gyfer eu hasesiadau. 

Mae gwybodaeth a chefnogaeth hefyd yn ein dogfen Help Llaw i Ddysgwyr ar Arholiadau ac Asesiadau