NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

21.08.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dysgwyr TGAU a chymwysterau galwedigaethol lefel 2 yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau heddiw

Heddiw (21 Awst) yw ail ddiwrnod canlyniadau cymwysterau'r haf, gyda miloedd o ddysgwyr yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol mewn ysgolion a cholegau ledled y wlad.

Mae'r canlyniadau hyn yn benllanw gwaith caled gan ddysgwyr, eu hathrawon a staff eraill mewn canolfannau, a theuluoedd sydd wedi eu cefnogi trwy eu haddysg. 

Wrth longyfarch dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: 
“Da iawn i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau. Mae heddiw yn garreg filltir sylweddol yn eich bywyd, ar ôl blynyddoedd o waith caled.  

Gall eich canlyniadau eich helpu i gymryd eich cam nesaf, boed hynny'n golygu mentro i fyd gwaith, dechrau prentisiaeth neu hyfforddiant, neu barhau â'ch astudiaethau yn yr ysgol neu'r coleg. 

Gobeithio eich bod wedi cael y graddau yr oeddech chi eu heisiau. Os ddim, peidiwch â phoeni. Mae llawer o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i chi. Gall eich ysgol neu goleg eich helpu gyda chyngor ac arweiniad, ac mae gwybodaeth ar wefan Cymwysterau Cymru gyda dolenni i sefydliadau sy'n gallu rhoi cymorth pellach." 

Wrth ddiolch i athrawon a darlithwyr, ychwanegodd Philip Blaker: 

"Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi dysgwyr i gwblhau cymwysterau yr haf hwn, yn enwedig i athrawon, darlithwyr a staff eraill mewn canolfannau am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn." 

Canlyniadau TGAU     

  • dyfarnwyd 307,089 o raddau TGAU yr haf hwn – ychydig yn llai nag yn 2024 
  • roedd 19.5% o'r graddau TGAU a gyhoeddwyd yn radd A/7 neu uwch, roedd 62.5% yn radd C/4 neu uwch a 96.9% yn radd G/1 neu uwch  
  • i unigolion 16 oed a oedd yn sefyll TGAU A* i G, roedd 6.8% o'r graddau a gyhoeddwyd yn radd A*, roedd 19.8% yn A* i A a 63.5% yn A* i C  
  • mae’r canlyniadau yma ar gyfer arholiadau a gafodd eu sefyll yr haf hwn – nid ydynt yn cynnwys graddau wedi eu cyflawni gan yr un dysgwyr mewn unrhyw gyfres arholiadau blaenorol 

Mae gan Cymwysterau Cymru ragor o wybodaeth ar eu gwefan am ganlyniadau cenedlaethol, yn ogystal â chefnogaeth ar y camau nesaf, ac mae gan Cymru’n Gweithio ganllawiau ar opsiynau i'r rhai sy'n derbyn canlyniadau yn ogystal â chyngor diduedd am ddim ar ba opsiynau sydd ar gael i'r rhai sy'n derbyn canlyniadau.