Dysgwyr yn cael canlyniadau arholiadau Ionawr 2026
Heddiw, mae dysgwyr ledled Cymru yn cael canlyniadau arholiadau ac asesiadau mis Ionawr 2026.
Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu canlyniadau CBAC heddiw. Rydym hefyd am ddiolch i'r ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru y mae eu gwaith caled a'u hymrwymiad wedi cefnogi cyflwyno'r gyfres arholiadau hon yn llwyddiannus.
Roedd cyfres mis Ionawr 2026 yn cynnwys arholiadau uned ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg, ystod o gydrannau a dyfarniadau llawn ar gyfer cymwysterau Lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, cymwysterau’r Dystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
Fel rheoleiddiwr cymwysterau Cymru, buom yn monitro cyflwyniad CBAC o'r gyfres hon a'r prosesau a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau yn fanwl.
Cyhoeddodd CBAC ganlyniadau ar gyfer unrhyw gymwysterau cyflawn ar gyfer cyfres arholiadau Ionawr 2026 yng Nghymru ar ei wefan heddiw.