NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

09.01.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
CANOLFANNAU

Dysgwyr yn derbyn graddau TGAU o arholiadau mis Tachwedd

Llongyfarchiadau i ddysgwyr yng Nghymru sy’n derbyn canlyniadau heddiw ar gyfer arholiadau y gwnaethon nhw eu sefyll fis Tachwedd y llynedd

Fe wnaeth dysgwyr sefyll arholiadau mewn pedwar pwnc TGAU yn ystod mis Tachwedd 2024:  

  • Saesneg Iaith 
  • Mathemateg
  • Mathemateg - Rhifedd
  • Cymraeg Iaith 

Mae'r ystadegau cofrestru llawn ar gael yn ein hadroddiad swyddogol, y gallwch ei ddarllen fan hyn: Cofrestriadau dros dro TGAU mis Tachwedd 2024 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru. 

Cafwyd 23,930 o gofrestriadau ym mis Tachwedd 2024, i fyny 6.3% o 22,505 ym mis Tachwedd 2023. 

Mathemateg - Rhifedd yw’r pwnc gyda’r nifer mwyaf o gofrestriadau ym mis Tachwedd o hyd, sef 53.5% o gyfanswm y cofrestriadau yn 2024 o’i gymharu â 53.4% yn 2023. Roedd y mwyafrif (87.1%) o gofrestriadau TGAU Tachwedd 2024 ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11, cyfran debyg i 2023. 

Mae CBAC wedi cyhoeddi canlyniadau ar gyfer y gyfres ar ei wefan ac mae’r Cyd-gyngor Cymwysterau hefyd wedi cyhoeddi trosolwg o’r gyfres.