Dysgwyr yng Nghymru’n derbyn eu canlyniadau UG, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol lefel 3
Mae miloedd o ddysgwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau UG, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru heddiw (14 Awst).
Wrth longyfarch dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:
"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu canlyniadau heddiw a da iawn am yr holl waith rydych chi wedi'i wneud wrth gwblhau eich cymwysterau. Mae canlyniadau'n garreg filltir fawr ym mywydau dysgwyr, a bydd llawer ohonoch yn edrych ymlaen at eich camau nesaf – boed hynny i waith, prentisiaeth, neu addysg uwch.
Gobeithio eich bod wedi cael y graddau yr oeddech chi eu heisiau. Os ddim, peidiwch â phoeni. Mae llawer o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i chi. Gall eich ysgol neu goleg eich helpu gyda chyngor ac arweiniad, ac mae gwybodaeth ar wefan Cymwysterau Cymru gyda dolenni i sefydliadau sy'n gallu rhoi cymorth pellach."
Wrth ddiolch i athrawon a darlithwyr, ychwanegodd Philip Blaker:
"Diolch i bawb sydd wedi cefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy eu cyrsiau, yn enwedig i athrawon, darlithwyr a staff eraill mewn canolfannau am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn.
Mae'r canlyniadau hyn yn dangos yn glir ymrwymiad y rhai sy'n paratoi ac yn cefnogi dysgwyr trwy eu hastudiaethau."
Mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn galluogi dysgwyr i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud. Mae'r graddau y mae dysgwyr yn eu cyflawni yn mesur eu cyrhaeddiad ac yn caniatáu iddyn nhw symud ymlaen i'w camau nesaf.
Canlyniadau Safon Uwch, UG a Bagloriaeth Sgiliau Uwch
- cafodd 31,791 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf yma
- roedd 10.5% o'r graddau Safon Uwch a gafodd eu cyhoeddi yn radd A*, 29.5% yn A* i A ac roedd 97.5% yn raddau A* i E
- ar gyfer unigolion 18 oed a safodd cymwysterau Safon Uwch CBAC, roedd 10.4% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 29.8% yn raddau A* i A a 97.8% yn raddau A* i E
- cafodd 39,930 o raddau UG eu dyfarnu yr haf yma
- roedd 22.7% o'r graddau UG a gafodd eu cyhoeddi yn radd A a 90.9% yn A i E
- ar gyfer unigolion 17 oed a safodd cymwysterau UG CBAC, roedd 22.9% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A a 90.3% yn raddau A i E
Mae gan Cymwysterau Cymru ragor o wybodaeth ar eu gwefan am ganlyniadau cenedlaethol, yn ogystal â chefnogaeth ar y camau nesaf, ac mae gan Cymru’n Gweithio ganllawiau ar opsiynau i'r rhai sy'n derbyn canlyniadau yn ogystal â chyngor diduedd am ddim ar ba opsiynau sydd ar gael i'r rhai sy'n derbyn canlyniadau.