Dysgwyr yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol heddiw
Bydd llawer o ddysgwyr yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol heddiw, yn dilyn yr ail flwyddyn i ddysgwyr sefyll arholiadau ac asesiad ffurfiol ers 2019.
"Llongyfarchiadau i bawb yng Nghymru sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw. Rydych chi wedi dangos yr hyn rydych chi'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud, a dylech fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi ei gyflawni," meddai Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.
Cafodd arholiadau ac asesiadau eu cynnal eto’r haf yma a hynny am yr eildro ers iddyn nhw gael eu canslo yn ystod y pandemig. Er mwyn cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod o bontio’n ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig, cafodd gwybodaeth ymlaen llaw ei darparu a rhoddwyd dull cefnogol o raddio ar waith.
Ledled Cymru, mae canlyniadau ryw hanner ffordd rhwng y rhai a ddyfarnwyd yn 2019 (y flwyddyn olaf cyn y pandemig) a 2022 (y flwyddyn gyntaf i ddysgwyr sefyll arholiadau wrth i ni ddod allan o’r pandemig). Cafodd y dull graddio cefnogol hwn ei gyhoeddi nôl ym mis Medi; mae’n nodi’r cam nesaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i’r trefniadau asesu oedd ar waith cyn y pandemig.
Aeth Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, yn ei flaen:
“Diolch i’r holl ysgolion a cholegau am eu gwaith caled yn cefnogi dysgwyr wrth i ni gymryd y cam nesaf ar ein taith yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig.
Mae'r daith yn ôl yn bwysig wrth ystyried tegwch hirdymor i ddysgwyr. Mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn caniatáu i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth a chyflawni graddau yn seiliedig yn gyfan gwbl ar y gwaith maen nhw wedi'i gynhyrchu, gan ganiatáu i ni fod â chymaroldeb mewn dulliau o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r graddau mae dysgwyr yn eu cyflawni yn mesur eu cyrhaeddiad ac yn caniatáu iddyn nhw symud ymlaen i addysg bellach, addysg uwch neu gyflogaeth.
Efallai y bydd rhai dysgwyr nad ydyn nhw’n cyflawni’r graddau roedden nhw wedi gobeithio amdanyn nhw. Fy nghyngor i yw peidio â phoeni os nad wyt ti wedi cael y graddau sydd eu hangen arnat ti ar gyfer y llwybr cynnydd rwyt ti wedi’i ddewis. Mae llawer o opsiynau ar gael a llwybrau gwahanol y mae modd i ti eu hystyried, a bydd cefnogaeth ar gael os byddi di angen arweiniad.”
Mae Cymru'n Gweithio yn cynnig cyngor diduedd, rhad ac am ddim ar ba opsiynau sydd ar gael. Cer i https://cymrungweithio.llyw.cymru/sut-y-gallwn-ni-helpu/gwarant-i-bobl-ifanc am ragor o wybodaeth a chefnogaeth.
Canlyniadau TGAU
- cafodd canlyniadau yn 2023 eu dyfarnu hanner ffordd yn fras rhwng 2019 a 2022
- cafodd 300,409 o raddau TGAU eu dyfarnu'r haf hwn. Mae hyn yn llai na haf y llynedd, ond yn fwy nag yn 2019. Roedd llai o gofrestriadau gan ddysgwyr ym mlwyddyn 10 ac is eleni, o'i gymharu â'r llynedd, ond mwy nag yn 2019
- roedd 21.7% o'r graddau TGAU a gafodd eu cyhoeddi yn radd A/7 neu’n uwch, roedd 64.9% yn radd C/4 neu’n uwch ac roedd 96.9% yn radd G/1 neu’n uwch
- ar gyfer pobl ifanc 16 oed a wnaeth sefyll TGAU A* i G, roedd 9.0% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 22.0% yn A* neu A a 65.6% yn raddau A*-C
- mae'r canlyniadau hyn ar gyfer arholiadau a gafodd eu sefyll yr haf hwn. Dydyn nhw ddim yn rhoi darlun llawn o’r holl gymwysterau TGAU mae dysgwyr 16 oed yng Nghymru wedi’u cyflawni, oherwydd dydyn nhw ddim yn cynnwys unrhyw raddau ar gyfer cymwysterau TGAU y gallen nhw fod wedi’u hennill mewn cyfresi arholiadau blaenorol
- mae'r canlyniadau a gafodd eu cyhoeddi gan y JCQ ar gyfer pob dysgwr yn cynnwys TGAU A*-G Cymru a TGAU 9-1 sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn Lloegr. Gan nad yw'r graddfeydd graddau yn alinio'n uniongyrchol, caiff canlyniadau eu cyhoeddi ar gyfer graddau allweddol A/7, C/4 a G/1
Mae manylion llawn canlyniadau TGAU a'r Dystysgrif Her Sgiliau yng Nghymru ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru. Mae yna hefyd wybodaeth gefndirol ychwanegol am sut cafodd cymwysterau eu dyfarnu eleni a chymorth a chefnogaeth i ddysgwyr wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.