Dysgwyr yng Nghymru yn derbyn eu graddau TGAU heddiw
Mae dysgwyr TGAU yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau, ar ôl dychwelyd i arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers 2019.
"Llongyfarchiadau i bawb yng Nghymru sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Er gwaethaf yr heriau rydych chi wedi eu hwynebu, rydych chi wedi dangos yr hyn rydych chi'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud – dylech chi fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi’i gyflawni." meddai’r Prif Weithredwr, Philip Blaker.
Bu Cymwysterau Cymru yn gweithio gydag eraill yn y system addysg i ddod o hyd i’r ffordd decaf o asesu dysgwyr eleni. Cafodd pecyn cymorth ei roi ar waith i ystyried y tarfu a gafodd ei achosi gan y pandemig wrth i ni ddychwelyd tuag at ddulliau asesu cyn y pandemig.
Cafodd cymwysterau TGAU eu haddasu eleni i roi cymorth ychwanegol i ddysgwyr ac i fynd i'r afael â’r amser addysgu a dysgu oedd wedi’i golli. Cafodd arholiadau hefyd eu graddio'n fwy hael i gydnabod bod dysgwyr wedi cael y ddwy flynedd fwyaf anghyffredin wrth arwain at eu harholiadau.
Mae’r canlyniadau ledled Cymru hanner ffordd yn fras rhwng y canlyniadau yn 2019 pan gafodd arholiadau eu cynnal ddiwethaf, a'r canlyniadau yn 2021, pan benderfynodd athrawon ar raddau dysgwyr. Cafodd y dull hwn o raddio ei gyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon ac mae'r un fath â'r dull gweithredu a gafodd ei ddefnyddio yn Lloegr.
“Mae dilyniant dysgwyr bob amser yn flaenoriaeth. Rydyn ni wedi gweithio'n agos â CBAC i gytuno ar weithdrefnau ar gyfer dyfarnu graddau TGAU sy'n ymgorffori arferion sydd wedi’u sefydlu tra'n sicrhau rhwyd ddiogelwch i ddysgwyr. Rydyn ni hefyd wedi gwneud yn siŵr bod y broses raddio’n gyson â chymwysterau TGAU mewn awdurdodaethau eraill i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau.”
Rydyn ni’n gwybod bod dysgwyr yn bryderus am ddychwelyd i arholiadau, ond ar y cyfan, mae'r gyfres arholiadau wedi mynd yn dda. Hoffen ni ddiolch yn arbennig i'r holl ysgolion a cholegau am eu gwaith caled a'u hymroddiad."
I unrhyw un sy'n ystyried eu hopsiynau wrth iddyn nhw gynllunio eu camau nesaf, mae Cymru'n Gweithio yn cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim a diduedd. I gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth, ewch i wefan Cymru’n Gweithio https://cymrungweithio.llyw.cymru/dechrau-dy-stori.
Canlyniadau TGAU
- Cafodd canlyniadau yn 2022 eu dyfarnu hanner ffordd yn fras rhwng 2019 a 2021.
- Cafodd 311,072 o raddau TGAU eu dyfarnu yr haf hwn. Mae hyn yn llai na haf y llynedd, ond yn fwy nag yn 2019. Roedd mwy o gofrestriadau gan ddysgwyr ym Mlwyddyn 10 ac yn is eleni, ond llai o gofrestriadau gan ddysgwyr ym Mlwyddyn 12 ac uwch.
- Roedd 25.1% o'r graddau TGAU a gafodd eu cyhoeddi yn radd A/7 neu’n uwch, roedd 68.6% yn radd C/4 neu’n uwch ac roedd 97.3% yn radd G/1 neu’n uwch.
- Ar gyfer pobl ifanc 16 oed a wnaeth sefyll TGAU A* i G, roedd 11.4% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 25.8% yn A* neu A ac 69.7% yn raddau A* i C.
- Mae'r canlyniadau hyn ar gyfer arholiadau a gafodd eu sefyll yr haf hwn. Dydyn nhw ddim yn rhoi darlun llawn o’r holl gymwysterau TGAU mae dysgwyr 16 oed yng Nghymru wedi’u cyflawni, oherwydd dydyn nhw ddim yn cynnwys unrhyw raddau ar gyfer cymwysterau TGAU y gallen nhw fod wedi’u hennill mewn cyfresi arholiadau blaenorol.
- Mae'r canlyniadau a gafodd eu cyhoeddi gan y JCQ ar gyfer pob dysgwr yn cynnwys TGAU A*-G Cymru a TGAU 9-1 sydd wedi eu cynllunio i'w defnyddio yn Lloegr. Gan nad yw'r graddfeydd graddau yn alinio'n uniongyrchol, caiff canlyniadau eu cyhoeddi ar gyfer graddau allweddol A/7, C/4 a G/1.
- Cofrestrodd 24,941 am y Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen. Enillodd 97.0% o ymgeiswyr y cymhwyster, gyda 17.6% yn ennill graddau A*- A ac 84.4% o ymgeiswyr yn ennill graddau A*- C.
Mae manylion llawn canlyniadau TGAU a’r Dystysgrif Her Sgiliau yng Nghymru ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru. Mae yna hefyd wybodaeth gefndirol ychwanegol am sut cafodd cymwysterau eu dyfarnu eleni a chymorth a chefnogaeth i ddysgwyr wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.