Ein Hadroddiad Blynyddol 2023-2024
Edrych yn ôl ar y flwyddyn academaidd ddiwethaf, ein gweithgareddau a’r hyn rydym wedi cyflawni.
Rydym wedi lansio ein hadroddiad blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-2024.
Mae'r adroddiad yma yn rhoi amlinelliad o’r ddarpariaeth a’r datblygiadau dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Roedd yn flwyddyn arwyddocaol i ni yn Cymwysterau Cymru mewn sawl ffordd. Rydym wedi gweld y trefniadau’n dychwelyd i'r ffordd oeddent cyn y pandemig gyda chanlyniadau yn cyd-fynd yn fras â lefelau 2019. Cam hynod bwysig, gan ddod â Chymru ynghyd ag awdurdodau eraill yn y DU.
Mae rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn yr adroddiad blynyddol yn cynnwys:
- sut y gwnaethom gymryd y cam olaf yn y newid yn ôl i drefniadau cyn-bandemig
- creu’r gyfres o Gymwysterau Cenedlaethol a Gwneud-i-Gymru ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, gan gynnwys TAAU, y gyfres Sgiliau, cymwysterau Sylfaen a TGAU
- y dull o ddynodi cymwysterau eraill i gyd-fynd â Chymwysterau Cenedlaethol 14-16
- datblygiadau mewn cymwysterau galwedigaethol ôl-16
- adolygiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
- cael ein rhestru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Dywedodd Cadeirydd Cymwysterau Cymru, David Jones OBE DL:
"Mae'n bleser mawr gennyf gyflwyno ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2023-2024. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi ei nodi gan lwyddiannau a chynnydd sylweddol yn ein nod i sicrhau bod cymwysterau yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi a bod y cyhoedd yn ymddiried ynddynt. Mae ein ffocws ar ddysgwyr, ac rwy'n llongyfarch pob un ohonynt am eu cyflawniadau ar draws cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.
Hoffwn ddiolch o gallon i’n holl staff ac aelodau bwrdd, ochr yn ochr â’n holl bartneriaid ar draws y system addysg yng Nghymru a chydnabod eu gwaith caled a’u hymroddiad. Wrth gydweithio, rydym yn llunio dyfodol mwy disglair i addysg yng Nghymru."
Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker:
“Mae’r adroddiad yma yn dangos sut mae dysgwyr wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Mae’n arddangos ein hymrwymiad i gynnal y safonau uchaf mewn cymwysterau ac asesiadau, gan sicrhau eu bod yn bodloni anghenion dysgwyr a’u paratoi ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag ystod eang a chynyddol o bartneriaid allweddol fel rhan o’n gweithgareddau rheoleiddio a diwygio. Hoffwn ddiolch iddynt am eu cydweithrediad.
Hoffwn hefyd ddiolch i fy nghydweithwyr yn Cymwysterau Cymru am eu hymdrechion parhaus i wneud yn siŵr bod cymwysterau yn gofnod teg, trosglwyddadwy, o wybodaeth a sgiliau dysgwyr, y gallant ymddiried ynddynt.”
Darllenwch fwy yma.