Ein Hymrwymiad i Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae dysgwyr wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud.
Rydym yn falch o gyhoeddi ein cynllun corfforaethol newydd, gan gynnwys ein Datganiad Llesiant a'n Hamcanion. Rydym yn croesawu cael ein rhestru o’r newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae’r cynllun yma yn dangos ein hymrwymiad i’w hegwyddorion, gan adlewyrchu ein hymroddiad i wneud penderfyniadau hirdymor, effeithiol.
Mae ein cynllun corfforaethol yn amlinellu dull strategol o gyflawni ein pwrpas a'n prif nodau. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio gan roi ystyriaeth ddyledus i les cenedlaethau’r dyfodol ac mae’n ymgorffori ein datganiad llesiant a’n hamcanion.
Rydym hefyd wedi sefydlu ein blaenoriaethau strategol a’n rhaglen waith a’u gosod allan mewn cynllun pum mlynedd, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Mae’r camau manwl a gymerwn bob blwyddyn wedyn yn cael eu hamlinellu yn ein cynllun busnes blynyddol.
Dywedodd Heledd Morgan, Cyfarwyddwr Gweithredu ac Effaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
"Croeso i Cymwysterau Cymru a'r cyrff cyhoeddus eraill sydd wedi dod o dan ddyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ddiweddar. Rydym wedi bod yn cefnogi ac yn cynghori'r sefydliadau hyn i ddeall eu dyletswyddau a gweithredu dull sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Er mai dim ond o fis Mehefin 2024 y bu’n destun y ddeddfwriaeth, mae wedi bod yn gadarnhaol gweld y ffordd y mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi cymryd eu cyfrifoldebau i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.
“Mae eu hymagwedd at ddiwygio cymwysterau, gan gynnwys dysgwyr a chydweithio ag amrywiaeth o bobl, wedi dangos eu bod eisoes yn cymhwyso egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae addysg yn effeithio ar lesiant mewn nifer o ffyrdd. Fel sefydliad allweddol yng Nghymru, sy’n dylanwadu ar ddysgwyr o bob oed, mae datganiad llesiant newydd Cymwysterau Cymru yn amlinellu’r gwaith gwych sydd ar y gweill a’r gwaith sydd eto i’w wneud i’n dod yn nes at y Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi. Edrychaf ymlaen at ragor o gydweithio wrth iddynt geisio cyflawni eu hamcanion llesiant."
Dywedodd Alison Standfast, Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau gyda Cymwysterau Cymru:
“Rydym yn falch o ddweud ein bod wastad wedi gweithio o fewn ysbryd y Ddeddf. Rydym nawr yn mynd ymhellach ac mae gennym gynllun corfforaethol newydd sydd wedi’i ddylunio gan roi ystyriaeth ddyledus i lesiant cenedlaethau’r dyfodol ac sy’n ymgorffori ein datganiad llesiant a’n hamcanion.
“Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o grwpiau rhanddeiliaid wrth lunio ein hamcanion llesiant, sydd wedi ein helpu i ddeall eu gobeithion ar gyfer y dyfodol.”
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma