NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

13.01.25

CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Ffenest ymgeisio am Grant Cefnogi'r Gymraeg nawr ar agor

Rydym wedi ymrwymo i ehangu mynediad i gymwysterau cyfrwng Cymraeg ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y cyfnod ymgeisio am y Grant Cefnogi’r Gymraeg 2025/26 bellach ar agor.

Gall cyrff dyfarnu cydnabyddedig gyflwyno ceisiadau o 13 Ionawr 2025 tan ganol nos ar 28 Chwefror 2025. Mae ceisiadau bellach yn ddigidol a rhaid eu cwblhau drwy ein platfform Dweud Eich Dweud. I gael mynediad i'r ffurflen gais a'r deunyddiau ategol, cofrestrwch gyfrif ar Dweud Eich Dweud cyn mewngofnodi.

Ffocws ariannu
Ar gyfer 2025/26, ein blaenoriaeth ar gyfer Grant Cymorth y Gymraeg yw cefnogi cymwysterau rheoleiddiedig sydd wedi’u cynllunio:

  • i'w defnyddio gan ddysgwyr 14-19 oed ar raglenni dysgu amser llawn sydd wedi eu hariannu a / neu
  • i’w defnyddio ar brentisiaethau sydd wedi eu hariannu'n gyhoeddus.

Er mai dyma'r maes rydyn yn canolbwyntio arni, rydym hefyd yn croesawu ceisiadau am gymwysterau rheoleiddiedig eraill, yn enwedig lle mae galw neu angen clir.

Dywedodd Dr. Alex Lovell, Rheolwr Cymwysterau:
“Rydym yn falch o gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rydym yn cefnogi drwy ein gwaith cyfrwng Cymraeg megis y grant yma. Mae’r Grant Cefnogi’r Gymraeg yn fenter allweddol ar gyfer cyflawni ymrwymiadau ein strategaeth Dewis i Bawb a’i nod o sicrhau bod dysgwyr yn gallu cymryd cymwysterau yn eu dewis iaith.

Edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd blaenorol a pharhau i gefnogi cyrff dyfarnu i ehangu eu cynnig o gymwysterau cyfrwng Cymraeg.”

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllaw ar gyfer gwneud cais. Gallwch gyflwyno cais yma.

Am unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio am grant, cysylltwch â ni yn grants@cymwysterau.cymru