NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

30.09.21

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Dull graddio a chynlluniau wrth gefn ar gyfer Cymru

Bydd Cymwysterau Cymru yn cadarnhau dull graddio cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau haf 2022 a chynlluniau wrth gefn yr wythnos nesaf (wythnos yn dechrau 4 Hydref 2021).

Mae Bwrdd Cymwysterau Cymru wedi ystyried ein dull o raddio yn haf 2022 ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch CBAC, yn ogystal â threfniadau wrth gefn os na fydd arholiadau'n bosibl. Byddwn yn cyhoeddi ein dull o raddio a threfniadau wrth gefn yn yr wythnos sy'n dechrau ar 4 Hydref 2021.  

Rydym yn ymwybodol bod cyhoeddiadau wedi'u gwneud gan Ofqual yn Lloegr heddiw (30 Medi) am yr addasiadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer eu harholiadau TGAU a Safon Uwch nhw, eu dull o raddio ac ymgynghoriad ar eu trefniadau wrth gefn. Mae addasiadau eisoes wedi'u rhoi ar waith ar gyfer haf 2022 yng Nghymru, fel y cyhoeddwyd ym mis Mawrth, ac mae CBAC wedi cyhoeddi gwybodaeth am y newidiadau i TGAU, UG a Safon Uwch  a'r Dystysgrif Her Sgiliau.  

Bydd y penderfyniad ar y dull o raddio cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn cael effaith ar gymwysterau galwedigaethol penodol a ddefnyddir at ddibenion tebyg, gan gynnwys symud ymlaen i astudio pellach. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu ystyried y dull a ddefnyddir ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch wrth bennu safonau mewn cymwysterau galwedigaethol fel nad yw dysgwyr galwedigaethol o dan anfantais o gymharu â dysgwyr sy'n sefyll cymwysterau TGAU a Safon Uwch. 

Bydd diwrnodau canlyniadau arholiadau y flwyddyn nesaf yn dychwelyd i'w fformat arferol, gyda Safonau UG a Safon Uwch yn cael eu rhyddhau ar 18 Awst, a TGAU ar 25 Awst. Cyhoeddir canlyniadau cymwysterau galwedigaethol a ddefnyddir i symud ymlaen mewn ffordd debyg ar yr un diwrnodau neu cyn hynny, a bydd canlyniadau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol eraill yn parhau i gael eu cyhoeddi trwy gydol y flwyddyn.