NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

01.04.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Grymuso Rhieni a Gofalwyr trwy ein Fforwm newydd

Gan adeiladu ar lwyddiant ein grwpiau rhanddeiliaid hirsefydlog, fel ein Llysgenhadon Dysgwyr, rydym yn chwilio am rieni a gofalwyr i ymuno â'n fforwm newydd ymroddedig. Trwy ofod pwrpasol ar ein platfform ymgysylltu ar-lein Dweud Eich Dweud, ein nod yw dod â rhieni a gofalwyr ynghyd i rannu eu dirnadaeth, eu profiadau a’u hawgrymiadau, a fydd yn helpu i lywio ein gwaith.

Taith Connie
“Mae ymuno ag un o grwpiau rhanddeiliaid Cymwysterau Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i mi. Fel aelod, rwyf wedi gweld drosof fy hun y parodrwydd gwirioneddol i syniadau a mewnbwn.

“Mae'n galonogol gwybod bod ein lleisiau nid yn unig yn cael eu clywed, ond hefyd yn cael eu hystyried yn weithredol wrth lunio dyfodol cymwysterau yng Nghymru.

“Byddwn yn annog cyd-rieni a gofalwyr i ymuno â mi ar y daith ddylanwadol hon. Gyda’n gilydd, gallwn eirioli dros anghenion addysgol dysgwyr ifanc, cael golwg gynnar ar brosiectau newydd yn gynnar, cyfrannu at newid cadarnhaol, ac adeiladu amgylchedd dysgu cryfach, mwy cynhwysol.”

Pam Ymuno â'r Fforwm Rhieni/Gofalwyr?
Dweud Eich Dweud: Mae’r fforwm yn rhoi llwyfan i rieni a gofalwyr gael dweud eu dweud, ac i leisio’u hawgrymiadau yn uniongyrchol i ni yn Cymwysterau Cymru.

Adeiladu Cymuned Gefnogol:
Creu cymuned â rhieni a gofalwyr eraill sy'n rhannu eich ymrwymiad i wella addysg yng Nghymru.
Trwy ymuno, gallwch chi chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol addysg. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i ymuno â'r Fforwm Rhieni/Gofalwyr, ewch i wefan Cymwysterau Cymru, cysylltwch â ni, cyfathrebu@cymwysterau.cymru neu ewch i'r fforwm Rhieni a Gofalwyr ar ein gwefan ymgysylltu, Dweud eich Dweud.