NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

29.10.21

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU

Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Mae’r addasiadau wedi’u rhoi ar waith yn dilyn trafodaeth â chanolfannau, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru a byddant yn galluogi cymaint o ddysgwyr â phosibl i gwblhau eu cymwysterau wrth gynnal hyder cyflogwyr yn y cymwysterau.

Bydd y gostyngiad yn nifer yr asesiadau astudiaeth achos ar gyfer y cymwysterau Craidd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn parhau hyd at 31 Awst 2022 ar gyfer pob dysgwr sydd eisoes yn astudio’r cymwysterau neu’n dechrau ar gyrsiau cyn 31 Mawrth 2022. Gall canolfannau hefyd barhau i gynnig asesiad o gwestiynau'r astudiaeth achos drwy sesiynau holi ac ateb llafar gyda'r dysgwr. 

Mae goruchwylio o bell yn parhau i fod ar gael ar gyfer yr asesiadau amlddewis ar y sgrin.

Ceir manylion llawn yr addasiadau ar gyfer yr holl gymwysterau cymeradwy newydd mewn cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.