Help llaw ar gael i ddysgwyr trwy Lefel Nesa
Rydyn ni’n falch o gydweithio â Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru, e-sgol a CBAC i ailgyflwyno hwb cynnwys Lefel Nesa i gefnogi dysgwyr sy'n sefyll cymwysterau eleni.
Bydd arholiadau, asesiadau, asesiadau ymarferol ac asesiadau di-arholiad eraill yn cael eu cynnal eto eleni, ac mae llawer o ddysgwyr ledled Cymru yn brysur yn parhau â’u hastudiaethau ac yn paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau.
Rydyn ni’n deall bod paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn anodd, felly rydyn ni am i bob dysgwr wybod bod cefnogaeth ar gael i'w helpu nhw i gymryd y camau nesaf yn eu taith addysg yn hyderus.
Mae adnoddau ychwanegol ar gael ar wefan Lefel Nesa, gan gynnwys:
- gwybodaeth am drefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau eleni
- adnoddau adolygu
- sesiynau adolygu ar-lein
- cefnogaeth iechyd a lles
- cyngor a chymorth gyrfaoedd i ddysgwyr sy'n cynllunio eu camau nesaf i addysg neu gyflogaeth
Os wyt ti'n sefyll arholiadau ac asesiadau eleni, neu'n adnabod rhywun sydd, rhanna hwb cynnwys Lefel Nesa gyda nhw er mwyn iddyn nhw allu cael help llaw wrth iddyn nhw barhau i baratoi ar gyfer eu harholiadau a'u hasesiadau yn hyderus.
Am ragor o wybodaeth, cer i wefan Lefel Nesa.