Help llaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau ar gael nawr
Mae Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi ei ganllaw i arholiadau ac asesiadau 2022-23, i roi'r wybodaeth mae dysgwyr eu hangen am drefniadau ar gyfer eu cymwysterau.
I'r rhai sy'n sefyll cymwysterau eleni, mae disgwyl y bydd arholiadau ac asesiadau’n mynd yn eu blaenau yn ôl y bwriad. Mae llawer o ddysgwyr ledled Cymru wedi sefyll arholiadau mis Ionawr yn ddiweddar. Wrth i dymor y gwanwyn barhau, bydd dysgwyr yn parhau i astudio am eu cymwysterau yn ystod y cyfnod cyn arholiadau haf 2023. Bydd asesiadau ymarferol ac asesiadau di-arholiad eraill hefyd yn cael eu cynnal.
Mae paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn amser prysur, a bydd gan nifer gwestiynau am y trefniadau ar gyfer eu cymwysterau eleni. Dyna pam rydyn ni wedi creu canllaw i arholiadau ac asesiadau wedi’i ddiweddaru ar gyfer cymwysterau yn 2022/2023.
Mae'r wybodaeth yn y canllaw yno i helpu myfyrwyr i ddeall sut y bydd eu harholiadau a'u hasesiadau'n gweithio eleni.
Mae'r canllaw’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys:
- trosolwg o'r trefniadau eleni
- dyddiadau pwysig i’w cofio
- gwybodaeth am raddio a gwybodaeth ymlaen llaw
- dolenni i wefannau defnyddiol lle gall dysgwyr gael awgrymiadau adolygu, canllawiau lles a chymorth arall
Ein gobaith yw y bydd dysgwyr yng Nghymru sy'n sefyll cymwysterau eleni yn gweld bod y canllaw yn ddefnyddiol. Gan bawb yn Cymwysterau Cymru, pob lwc yn dy arholiadau ac asesiadau eleni.