NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

07.11.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID
CANOLFANNAU

Helpwch i lunio TGAU Gwneud-i-Gymru newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd

Nawr yw eich cyfle i ddylanwadu ar ba chwaraeon unigol a gweithgareddau corfforol fydd yn cael eu cynnwys yn y TGAU Gwneud-i-Gymru newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd.

Oes gennych chi ddiddordeb mawr mewn chwaraeon a hamdden? Ydych chi’n rhan o glwb lleol neu gorff llywodraethu chwaraeon? Nawr yw eich cyfle i ddylanwadu ar ba chwaraeon unigol a gweithgareddau corfforol fydd yn cael eu cynnwys yn y TGAU Gwneud-i-Gymru newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd.

Yn dilyn cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo, rydym nawr yn gofyn am eich adborth ar y rhestr o chwaraeon a gweithgareddau corfforol y dylid eu cynnwys er mwyn i ddysgwyr ddewis ohonynt. Bydd y cymhwyster newydd hwn yn disodli’r TGAU Addysg Gorfforol.

Mae chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn brif ffactorau wrth wella iechyd a lles y genhedlaeth nesaf. Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu hyn drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r Cwricwlwm wedi’i lunio o gwmpas chwe maes dysgu a phrofiad, ac un ohonynt yw Iechyd a Lles.

Mae Cymwysterau Cymru yn diwygio cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed i gefnogi’r Cwricwlwm ac mae wedi cyhoeddi y bydd TGAU newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd yn cael ei chyflwyno, ochr yn ochr ag 20 cymhwyster TGAU Gwneud-i-Gymru newydd. Mae CBAC, y corff dyfarnu, bellach yn datblygu’r cymhwyster, a fydd ar gael i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.

Fel rhan o’r TGAU newydd, bydd dysgwyr yn dewis chwaraeon a gweithgareddau corfforol o restr gymeradwy, ac mae Cymwysterau Cymru yn chwilio am eich help i benderfynu pa chwaraeon a gweithgareddau corfforol y dylid eu cynnwys ar y rhestr hon.

Fel bod chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn cael eu hystyried i’w cynnwys yn y TGAU newydd, bydd angen iddynt fodloni meini prawf penodol i sicrhau eu bod yn darparu cyfleoedd priodol a theg i asesu sgiliau dysgwyr. Mae Cymwysterau Cymru wedi datblygu meini prawf drafft ar gyfer hyn a chroesewir adborth.

Esboniodd Kerry Jones, Uwch Reolwr Cymwysterau gyda Chymwysterau Cymru:

“Rydyn ni am sicrhau bod y TGAU Gwneud-i-Gymru newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd yn diwallu anghenion dysgwyr drwy gynnig ystod ddiddorol a chynhwysol o chwaraeon ar gyfer unigolion a thimau neu weithgareddau corfforol. Hoffem glywed eich barn ar yr ystod o chwaraeon a gweithgareddau corfforol y dylem eu cynnwys. Rydyn ni hefyd am wirio bod ein meini prawf ar gyfer cynnwys y chwaraeon a’r gweithgareddau corfforol hyn yn deg, a bod pob camp a gweithgaredd corfforol ar y rhestr yn gallu asesu sgiliau dysgwyr yn briodol.”

Mae’n hawdd cymryd rhan – rhannwch eich barn yn yr arolwg ar-lein rhwng 7 Tachwedd a 6 Rhagfyr.