Byddwch yn rhan o siapio dyfodol y Gymraeg yn Cymwysterau Cymru
Rydym yn teimlo'n gyffrous i gael cyhoeddi ein Strategaeth Gymraeg ddrafft.
Credwn fod adborth ein partneriaid a’n rhanddeiliaid yn hollbwysig wrth lunio’r strategaeth hon. Dyna pam rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein harolwg a rhannu eich syniadau a'ch awgrymiadau.
Pam Mae Eich Adborth yn Bwysig:
Dylanwadu: Bydd eich adborth yn effeithio’n uniongyrchol ar sut rydym yn ymgorffori’r Gymraeg yn ein gwaith a’n gwasanaethau.
Cefnogi Dwyieithrwydd: Helpwch ni i barhau i greu amgylchedd cynhwysol a dwyieithog o fewn ein sefydliad.
Cenedlaethau’r Dyfodol: Cyfrannu at lwyddiant hirdymor a chynaliadwyedd y Gymraeg.
Fel y gwelwch o grynodeb ein Strategaeth Gymraeg ddrafft, rydym wedi cynnig pum piler:
- Piler 1 Adolygu a diwygio cymwysterau Cymraeg a chyfrwng Cymraeg
- Piler 2: Rheoleiddio a monitro Cymraeg a chymwysterau cyfrwng Cymraeg
- Piler 3 Defnyddio'r Gymraeg wrth gyfathrebu ac ymgysylltu
- Piler 4 Ymgorffori Cymraeg yn ein ffyrdd o weithio
- Piler 5 Defnyddio ymchwil, data a thechnoleg i gefnogi Cymraeg yn y system gymwysterau
Ewch i Dweud eich Dweud, ein hardal ymgysylltu digidol, i ddarllen y crynodeb. Yna cymerwch ychydig funudau i rannu eich barn drwy gwblhau ein harolwg. Bydd eich adborth yn ein helpu i sicrhau bod ein defnydd o’r Gymraeg yn berthnasol, yn deg ac yn hygyrch i bawb.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r arolwg yw 8 Ebrill 2025.