BLOG

Cyhoeddwyd:

02.04.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Hyder rhanddeiliaid mewn asesiad digidol

Dean Seabrook, ein Uwch Reolwr Cymwysterau ym maes Moderneiddio Asesu, sy’n adlewyrchu ar rai o ganfyddiadau’r ymchwil ar hyder rhanddeiliaid mewn asesiad digidol.

Mae’r ymchwil yma’n cael ei gyhoeddi ar adeg cyffrous i’r system gymwysterau yng Nghymru, gyda chyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cael ei chyflwyno o fis Medi eleni (2025). Bydd deg TGAU newydd yn cyflwyno asesiadau digidol yn unig sy'n darparu buddion i ddysgwyr a chanolfannau, gyda mwy yn cael eu hychwanegu dros amser. Maent wedi eu creu'n benodol ar gyfer fformatau digidol, ac felly mae’n bosib cynllunio'r asesiadau yma i ddefnyddio technoleg yn effeithiol. 

Mae cyfranwyr gan gynnwys gwahanol randdeiliaid, i’r ymchwil, yn cydnabod y gall asesiadau digidol gefnogi aliniad â dulliau addysgu a dysgu, ac adeiladu ar ba mor gyfarwydd mae dysgwyr ar hyn o bryd gydag ystod o dechnolegau digidol. Roedd cydnabyddiaeth y gall asesiadau digidol hefyd gefnogi cynwysoldeb trwy gael gwared ar rai rhwystrau wrth asesu, gwella ymgysylltiad trwy ddefnyddio deunydd clyweledol, a gwneud defnydd effeithiol o nodweddion hygyrchedd (gallwch ddarllen mwy am  rhywfaint o’n gwaith ar hygyrchedd a chynhwysiant yn y blog yma). 

Mae asesiadau digidol yn cael eu cynnwys mewn pynciau lle gall fod manteision amlwg i ddysgwyr sy'n eu sefyll, sydd hefyd yn golygu y bydd mwy o amrywiaeth ym mhrofiadau asesu dysgwyr. 

Canllaw Canolfannau
Bydd asesiadau digidol yn unig yn cael eu cyflwyno'n raddol yn ystod blynyddoedd cyntaf Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd. Yn ddiweddar, cyhoeddom ein Canllaw i Ganolfannau, sy’n dangos yr amserlen ar gyfer yr asesiadau hyn ac rydym hefyd yn creu dogfennau canllaw parodrwydd i helpu canolfannau i baratoi. Bydd yr ystod o asesiadau digidol hefyd yn tyfu dros amser ac yn cael eu cyflwyno ar draws pum pwnc TGAU pellach yn ystod pum mlynedd gyntaf y cymwysterau, gan ganiatáu mwy o gyfleoedd ar gyfer arloesi. 

Gweithio gyda phartneriaid
Mae’r ymchwil hefyd yn nodi meysydd lle bydd canolfannau’n gwerthfawrogi sicrwydd ynghylch cyflwyno asesiadau digidol. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, CBAC ac eraill yn y cyfnod hollbwysig hwn. Rydym, er enghraifft, wedi cadarnhau y bydd modd lawrlwytho arholiadau digidol ymlaen llaw cyn yr asesiad. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw ymyriadau cysylltedd effeithio ar y modd y cynhelir yr asesiadau hyn, ac rydym yn ymgysylltu’n agos ag awdurdodau lleol i gefnogi eu cynllunio. 

Manteision technoleg ar gyfer mathau eraill o gymwysterau
Gall technolegau digidol hefyd gynnig manteision i fathau eraill o gymwysterau. Mae'r tîm moderneiddio asesu hefyd yn cydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid i archwilio cyfleoedd eraill. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dod ag athrawon ac arbenigwyr meddalwedd asesu ynghyd i ystyried sut y gallai eitemau prawf ar y sgrîn ddefnyddio  aml-ddull neu gynnwys model sy'n efelychydd i wella ymgysylltiad a rhyngweithedd. 

Rydym hefyd wedi archwilio defnydd cyrff dyfarnu o dechnolegau goruchwylio o bell ac rydym yn gwahodd dysgwyr i ddweud wrthym am eu profiadau o gwblhau asesiadau o’r fath yma. Rydym hefyd yn gofyn i ysgolion ddweud wrthym sut y maent yn defnyddio technolegau digidol o fewn asesiadau i gefnogi ein hystyriaeth barhaus. 

Mae’r ymchwil yma wedi bod yn ein hatgoffa o’r ystod enfawr o fuddion y gall technolegau digidol eu cynnig i asesiadau a’r system gymwysterau – rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i’w gwireddu.