BLOG

Cyhoeddwyd:

21.02.25

ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Integreiddio mathemateg a rhifedd: egluro’r cymhwyster dwyradd newydd

Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau, sy’n ystyried y newidiadau allweddol sydd wedi’u gwneud i'r cymhwyster TGAU newydd mewn mathemateg a rhifedd, a'r hyn maen nhw’n ei olygu i athrawon a dysgwyr.

Oliver Stacey

Mae mathemateg a rhifedd yn sail i sawl agwedd ar y byd modern, o'r amgryptio a ddefnyddir wrth brynu ar-lein i'r modelau ystadegol a ddefnyddir i ragweld y tywydd. Mewn byd sy'n gynyddol gyfoethog o ran data, mae'n bwysicach nag erioed bod gan ddysgwyr yr hyder a'r sgiliau i ddefnyddio a chymhwyso mathemateg i wneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas ac i hwyluso gwneud penderfyniadau gwybodus.

Beth sydd wedi newid yn y TGAU Mathemateg a Rhifedd newydd?

Mae newidiadau wedi bod i'r cymwysterau TGAU yn y maes dysgu a phrofiad yma. Mae rhai yn strwythurol, tra bod eraill yn ymwneud â chynnwys ac asesu. Mae'r newidiadau hyn wedi'u cyflwyno mewn ymateb i’r Cwricwlwm i Gymru, adborth ymgynghori a chyd-greu gyda rhanddeiliaid. 

Symud i gymhwyster TGAU dwyradd

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn dod â mathemateg a rhifedd ynghyd mewn un maes dysgu a phrofiad. I adlewyrchu hyn, rydyn ni’n disodli'r cymwysterau TGAU Mathemateg a Mathemateg a Rhifedd presennol gydag un cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd

Yn dilyn adborth o'r ymgynghoriad, rydym wedi mynnu bod y cymhwyster newydd yn ddyfarniad dwyradd i adlewyrchu'n fwy cywir faint o gynnwys sydd yn y cymhwyster. Mae cynnwys mathemateg a rhifedd yn yr un cymhwyster hefyd yn arwain at leihau’r baich asesu cyffredinol, a gall dysgwyr ddisgwyl llai o asesu yn gyffredinol o gymharu â’r rhai sy’n sefyll y ddau gymhwyster TGAU ar hyn o bryd. 

Sicrhau cynnwys cyfoes 

Nid yw cynnwys mathemateg a rhifedd y Cwricwlwm i Gymru wedi newid yn sylweddol. Felly, mae'r cynnwys sydd yn y cymhwyster newydd yn adlewyrchu llawer o'r pynciau a'r cysyniadau sydd i’w gweld yn y cymhwyster TGAU presennol. 

Mae yna enghreifftiau o rai newidiadau bach ond pwysig, fel y gofyniad bod ffeithluniau bellach wedi'u cynnwys ochr yn ochr â mathau eraill o siartiau a graffiau. Mae hyn yn adlewyrchu'n well sut mae data cyfoes yn aml yn cael eu cyflwyno, er enghraifft yn y cyfryngau.     

Amcanion asesu sy'n adlewyrchu egwyddorion cynnydd

Mae Mathemateg a rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru yn seiliedig ar bum hyfedredd rhyngddibynnol. Mae'r cymhwyster newydd yn ystyried yr hyfedreddau hyn drwy eu hymgorffori o fewn yr amcanion asesu. 

Symud i asesiad unedol

Bydd gan y cymhwyster TGAU newydd strwythur unedol, sy'n golygu y bydd cyfleoedd i sefyll rhai arholiadau cyn diwedd Blwyddyn 11, a thrwy hynny alluogi'r llwyth asesu i gael ei rannu yn hytrach na gwneud y cyfan gyda’i gilydd fel sy’n digwydd gyda'r cymwysterau presennol. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn arbennig o bwysig ar gyfer y cymhwyster hwn oherwydd, yn wahanol i'r rhan fwyaf o gymwysterau TGAU eraill, nid yw'n cynnwys asesiadau di-arholiad. 

Newidiadau o ran haenu 

Dim ond dwy haen (uwch a sylfaen) fydd gan y cymhwyster newydd. Mae hyn mewn ymateb i adborth clir gan randdeiliaid y dylai dysgwyr allu cael Gradd C ar yr haen Sylfaen (nid yw hyn yn wir ar hyn o bryd). Mae hyn yn sicrhau bod y cymhwyster yn cyd-fynd â chymwysterau TGAU eraill sydd wedi eu haenu, fel y gwyddorau.

Newid arall yw y bydd modd cofrestru dysgwyr ar gyfer gwahanol unedau ar wahanol haenau. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ganolfannau ac yn eu galluogi i ystyried y cryfderau amrywiol allai fod gan ddysgwyr mewn perthynas â gwahanol agweddau ar fathemateg a rhifedd.  

Atgyfnerthu perthnasedd mathemateg mewn bywyd bob dydd

Rydyn ni’n gwybod bod defnyddio mathemateg yn ei chyd-destun i ddatrys problemau yn sgìl bwysig a gall helpu i atgyfnerthu perthnasedd a defnydd ymarferol y pwnc. Rydyn ni felly wedi rhestru’r amrywiaeth o gyd-destunau y gellir eu cynnwys yn asesiad y cymhwyster TGAU newydd er mwyn rhoi eglurder i randdeiliaid. Y cyd-destunau yw:

  • personol (e.e. cyllid personol)
  • cyd-destunau gyrfaoedd, cyflogaeth a gwaith
  • cymdeithasol (e.e. yr economi a demograffeg)
  • gwyddonol, amgylcheddol a thechnolegol

Rydyn ni’n gwybod nad yw'n hawdd meddwl am syniadau perthnasol, diddorol a newydd ar gyfer cyd-destunau cwestiynau mathemateg a rhifedd o flwyddyn i flwyddyn. Felly, rydyn ni wedi mynnu bod CBAC yn darparu mecanwaith ar gyfer casglu syniadau ar gyfer cyd-destunau cwestiynau. Mae mwy o fanylion am sut i gymryd rhan i'w gweld ar y dudalen ar gasglu syniadau ar wefan CBAC

Cefnogi canolfannau drwy newid

Mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael i athrawon wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno'r cymhwyster mathemateg a rhifedd newydd o fis Medi 2025. 

Mae CBAC eisoes wedi dechrau cyhoeddi adnoddau digidol dwyieithog, ac mae digwyddiadau wyneb yn wyneb ‘paratoi i addysgu’ yn parhau drwy gydol tymor y gwanwyn. 

Bydd goblygiadau i ddysgwyr sy’n ailsefyll y cymhwyster hwn o fis Medi 2027 ymlaen, yn sgil cyflwyno’r cymhwyster yma, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r sector ôl-16 ar hyn.