Integreiddio'r disgyblaethau gwyddoniaeth: esbonio’r cymhwyster TGAU gradd unigol newydd
Mazen Abdelmoteleb, Rheolwr Cymwysterau, sy’n edrych ar y cymhwyster TGAU gradd unigol newydd sy'n dod i ysgolion a cholegau ym mis Medi 2026.
Mae'r TGAU Gwyddoniaeth Integredig newydd (Gradd Unigol) yn cynnig profiad dysgu cyfoethog a pherthnasol i ddysgwyr a fyddai'n elwa o raglen astudio lai na TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd).
Wedi'i ddatblygu gyda mewnbwn gan ystod eang o arbenigwyr o'r gymuned wyddoniaeth, mae'r TGAU gwyddoniaeth integredig newydd hwn yn ymgorffori sylwadau gan weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud yn weithredol ar draws yr ystod o ddisgyblaethau gwyddoniaeth.
Mae'n cyfuno'r disgyblaethau gwyddonol traddodiadol â themâu, cyd-destunau a sgiliau cyfoes i helpu i ysbrydoli ac ennyn diddordeb pobl ifanc ym myd gwyddoniaeth.
Gan fod y cymhwyster gradd unigol hwn yn cynnwys llai o gynnwys na'r cymhwyster dwyradd newydd, nid yw'n hawdd cefnogi cynnydd i UG a Safon Uwch yn y gwyddorau.
Beth yw nodweddion allweddol y TGAU hwn?
Mae'r TGAU newydd hwn wedi'i drefnu'n thematig, gan roi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth wyddonol trwy amrywiaeth o themâu a chyd-destunau gafaelgar a pherthnasol.
Fe'i cynlluniwyd i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys addysgu a dysgu'r datganiadau perthnasol o'r 'hyn sy'n bwysig' o faes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg.
Integreiddio'r disgyblaethau gwyddonol
Teitl y cymhwyster hwn yw Gwyddoniaeth Integredig i adlewyrchu ei natur thematig, gyda phob thema yn tynnu ar gynnwys o fioleg, cemeg a ffiseg mewn ffordd sy'n annog dysgwyr i archwilio sut mae pob disgyblaeth yn cysylltu ac yn ymwneud â'r disgyblaethau eraill.
Archwilio dysgu gwyddonol trwy themâu a chyd-destunau gafaelgar a diddorol
Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn dod â gwyddoniaeth yn fyw trwy ddwy uned afaelgar: byw ar y ddaear a gwyddoniaeth mewn byd sy'n newid. Mae pob uned wedi'i hadeiladu o amgylch themâu sy'n ysgogi meddwl a chyd-destunau byd go iawn sydd wedi'u cynllunio i apelio at ddysgwyr. Mae'r themâu’n cynnwys effaith amgylcheddol gwahanol ddulliau trafnidiaeth, newid hinsawdd, atal clefydau ac archwilio'r gofod.
Mae gan ysgolion a cholegau hefyd yr hyblygrwydd i gynnwys enghreifftiau lleol, gan wneud y profiad dysgu hyd yn oed yn fwy ystyrlon a pherthnasol i ddysgwyr.
Trefniadau asesu hyblyg
Fel cymhwyster unedol, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau un asesiad ar ddiwedd Blwyddyn 10. Bydd rhan o'r asesiad ar gyfer Uned 1 yn seiliedig ar ddeunydd a ryddheir ymlaen llaw. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymwneud â deunyddiau perthnasol cyn yr arholiad, a fydd yn eu cefnogi i ddefnyddio eu gwybodaeth wyddonol a'u dealltwriaeth am bwnc penodol.
Adeiladu sylfaen gadarn mewn ymholiad gwyddonol
Mae sgiliau ymholi gwyddonol yn hanfodol i addysgu a dysgu gwyddoniaeth. Yn unol â chanllawiau'r cwricwlwm, anogir dysgwyr i fod yn chwilfrydig, i ofyn cwestiynau ac i chwilio am atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Drwy gydol y cymhwyster, bydd cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymholi gwyddonol, gan gynnwys nodi manteision a heriau defnyddio ymholi gwyddonol i archwilio syniadau ac ateb cwestiynau, gwneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar ymholi gwyddonol, a dadansoddi data.
Fel gyda'r cymhwyster dwyradd newydd, bydd sgiliau gwyddonol ymarferol yn cael eu hasesu fel rhan o Asesiad o Ymholiad Gwyddonol newydd. Bydd yr asesiad hwn yn cynnwys elfen ymarferol, yn seiliedig ar gyd-destunau perthnasol a gafaelgar, yn ogystal â chwestiynau sy'n asesu ystod o sgiliau ymholi eraill.
Camau nesaf i athrawon
Dros y flwyddyn nesaf, bydd CBAC yn cyflwyno rhaglen o ddysgu proffesiynol ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cymhwyster hwn.
Gall athrawon gael mynediad at fanylion a chofrestru ar gyfer y cyfleoedd dysgu proffesiynol canlynol ar wefan CBAC:
- canllawiau i fanylebau
- sesiynau briffio ar-lein byw ar y cymwysterau
- digwyddiadau wyneb yn wyneb 'Paratoi i Addysgu'
- canllawiau i asesiadau