NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

10.02.22

DYSGWYR
RHANDDEILIAID

Mae'n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau!

Rhwng 7 a 13 Chwefror 2022 bydd y genedl gyfan yn dathlu prentisiaid, staff addysgu a chyflogwyr anhygoel, wrth i Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2022 (WGP2022) ddod â phawb sy’n angerddol am brentisiaethau at ei gilydd.

Y thema ar gyfer WGP2022 yw "Adeiladu'r Dyfodol", gan fod prentisiaethau'n cynnig cyfleoedd unigryw i ddatblygu'r wybodaeth ymarferol sydd ei hangen ar gyfer gyrfa werth chweil tra'n adeiladu sgiliau yn barod at y dyfodol.

Cymwysterau Cymru yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru, a chymwysterau galwedigaethol a thechnegol yng Nghymru. Rydyn ni’n falch o hyrwyddo prentisiaethau, ac o ddathlu prentisiaethau yr wythnos hon gan eu bod yn adlewyrchu anghenion cyflogwyr, ac yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i gyflogaeth neu eu cam dysgu nesaf.

Mae prentisiaethau'n darparu llwybr i ddysgwyr ennill cymwysterau wrth iddynt weithio ac ennill cyflog. Mae ystod eang o brentisiaethau ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, ac mae llawer o wahanol gyflogwyr mewn amrywiaeth o sectorau yn eu cynnig. Mae prentisiaid yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill o staff tra byddant yn ennill sgiliau sy'n benodol i'r swydd.

Hefyd, mae llawer o fanteision i gyflogwyr yn ogystal. Boed yn recriwtio talent newydd, neu’n cynyddu sgiliau gweithwyr presennol, profwyd bod prentisiaethau’n cynyddu cynhyrchiant, cymhelliant ac yn cefnogi cynllunio olyniaeth.

Ein prentisiaid

Yn Cymwysterau Cymru mae gennym brofiad uniongyrchol o sut mae prentisiaethau’n gweithio, ar ôl derbyn nifer o brentisiaid dros y blynyddoedd. Fe wnaethom ni gael sgwrs â Tyla Doe, a ymunodd â Cymwysterau Cymru yn 2017 fel prentis yn ein tîm Adnoddau Corfforaethol.

Meddai Tyla Doe, Cynorthwyydd Swyddfa Cymwysterau Cymru: "Fy rôl fel prentis Gweinyddu Busnes oedd cefnogi'r Uwch Reolwr Cyfleusterau a'r Cynorthwyydd Swyddfa yn fy nhîm i gyflawni'r gwahanol gyfrifoldebau. Fe wnes i gefnogi’r tîm Cyfleusterau i reoli’r dderbynfa, archebu ystafelloedd, arlwyo, adrodd cynnal a chadw, rheoli blychau post, delio â gwahanol gontractwyr sy'n dod i'n safle a thasgau gweinyddol eraill ar draws y sefydliad.

"Fel rhan o'm prentisiaeth, fe wnes i lunio traethodau ar wahanol bynciau, a byddwn yn mynychu gweithdai i gwblhau asesiadau gwahanol. Byddwn hefyd yn cyfarfod â'm mentor prentisiaeth bob mis i drafod aseiniadau.

"I mi, y peth gorau am gwblhau prentisiaeth oedd cael y profiad hwnnw o weithio mewn amgylchedd swyddfa ac ennill cymaint o sgiliau gwahanol, yn syth wedi i mi gwblhau addysg amser llawn heb astudio yn y brifysgol. Gan fod fy mhrentisiaeth yn cyfrif fel swydd llawn amser, llwyddodd fy ngŵr a minnau (a gwblhaodd brentisiaeth yn Trafnidiaeth Cymru hefyd), i brynu ein tŷ cyntaf. Roeddwn bob amser yn meddwl na fyddwn mor llwyddiannus pe na bawn yn mynd i'r brifysgol, ond profodd y cyfle prentisiaeth hwn fy mod yn gwbl anghywir."

Mae rhagor o wybodaeth am brentisiaethau a chymwysterau galwedigaethol eraill ar gael yma: Cymwysterau Cymru / Cymwysterau galwedigaethol