NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

04.08.22

RHANDDEILIAID

Lansio Partneriaeth Strategol newydd rhwng y Coleg Cymraeg a Cymwysterau Cymru

Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion (dydd Iau 4 Awst) bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Cymwysterau Cymru yn dod ynghyd i lansio Partneriaeth Strategol newydd i sicrhau bod gan ddysgwyr a phrentisiaid sy’n dewis darpariaeth Gymraeg a dwyieithog gymwysterau dwyieithog hygyrch a’u bod ar gael.

Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion heddiw (dydd Iau 4 Awst) bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Cymwysterau Cymru yn dod ynghyd i lansio Partneriaeth Strategol newydd i sicrhau bod gan ddysgwyr a phrentisiaid sy’n dewis darpariaeth Gymraeg a dwyieithog gymwysterau dwyieithog hygyrch a’u bod ar gael ym mhob maes perthnasol.

Yn ôl David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru fydd yn siarad yn y digwyddiad ar stondin y Coleg: “Drwy sefydlu’r Bartneriaeth Strategol hon, rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu ffurfioli’r cyd-weithio cyson a llwyddiannus sydd wedi bod yn digwydd rhwng Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers tro. Mae gan Cymwysterau Cymru ymrwymiad cryf tuag at gymwysterau cyfrwng Cymraeg wrth gwrs, a dyma gyfle ardderchog i ni gyd-weithio’n agosach fyth â’r Coleg Cymraeg.

“Ddoe, fe wnaeth Cymwysterau Cymru lansio’r ‘Cynnig Cymraeg’, sef pecyn sy’n cynnig arweiniad i gyrff dyfarnu wrth iddyn nhw ddatblygu, dylunio, cyflwyno a dyfarnu cymwysterau Cymraeg neu ddwyieithog. Wrth gwrs, er mwyn i gyrff dyfarnu gyflwyno’r ‘Cynnig Cymraeg’ yn llwyddiannus, mae angen i ni gynyddu’r cymwysterau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, er mwyn i ddysgwyr allu dilyn cymwysterau yn yr iaith maen nhw’n dewis ei defnyddio. Rydyn ni fel sefydliad yn edrych ymlaen at gyd-weithio ymhellach efo’r Coleg Cymraeg er mwyn gwireddu’r cynllun hwn.”

Ac yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg fydd hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad: “Mae’n destun balchder i mi i fod yma heddiw yn lansio’r Bartneriaeth Strategol hon ar faes yr Eisteddfod. Mae’r bartneriaeth sydd wedi datblygu rhwng y Coleg a Chymwysterau Cymru yn ffrwyth llafur nifer o flynyddoedd o gydweithio ac yn fodd o osod y cydweithio adeiladol hynny ar sail swyddogol. Trwy greu partneriaeth rydym yn cydnabod ein hymrwymiad i gydweithio i gefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel rhan o strategaeth Cymraeg 2050 a’r Cynllun Gweithredu Cyfrwng Cymraeg Addysg Bellach a Phrentisiaethau.

“Hoffwn ddiolch i Cymwysterau Cymru am eu parodrwydd i gydweithio ar y mater allweddol o gymwysterau Cymraeg er lles dysgwyr a phrentisiaid sy’n dewis astudio a hyfforddi yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r agenda hon yn allweddol o ran creu gweithlu dwyieithog y dyfodol a sicrhau economi ffyniannus ble mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio’n hyderus.”

Mae Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sefydliadau allweddol mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.

Mae Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am reoleiddio cymwysterau yng Nghymru ar wahân i raddau ac mae ganddo bedwar maes ffocws fel rhan o’u strategaeth Dewis i Bawb i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am ddatblygu a chefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Cynllun Gweithredu Cyfrwng Cymraeg Addysg Bellach a Phrentisiaethau.

Er mwyn cefnogi’r bartneriaeth strategol hon, bydd y ddau sefydliad yn datblygu cynllun gweithredu ar y cyd yn yr hydref sy’n nodi camau gweithredu cytûn ac amserlen ar gyfer gweithredu.