Lansio ymchwil i werthuso'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd
Mae Cymwysterau Cymru wedi comisiynu Alma Economics i gynnal ymchwil gwerthuso i'r Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd a'u haddysgir mewn ysgolion ledled Cymru ers mis Medi.
Ymgynghoriaeth ymchwil sy'n arbenigo mewn addysg, polisi cymdeithasol, a gwerthusiadau cymhleth yw Alma Economics.
Bydd y prosiect pum mlynedd yn gwerthuso'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd, sy'n cynnwys TGAU, TAAU, cymwysterau Sylfaen, a'r Gyfres Sgiliau. Mae'r set gynhwysfawr, berthnasol a chyfartal hon o gymwysterau wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru.
Dros y misoedd nesaf, bydd canolfannau, dysgwyr a rhieni yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y gweithgareddau ymchwil y mae Alma Economics yn eu cynnal ar ein rhan.
Bydd y gwerthusiad yn defnyddio dulliau cymysg ac ymgysylltiad eang i archwilio sut mae'r cymwysterau'n cael eu cyflwyno ar draws gwahanol ganolfannau, a pha effeithiau cynnar y maent yn eu cael ar ddysgwyr, athrawon, arweinwyr ysgolion, a'r system ehangach. Bydd y gwerthusiad hefyd yn adolygu i ba raddau y mae'r diwygiadau’n cyflawni eu manteision bwriadedig.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker: "Bydd eich mewnbwn i'r ymchwil hon yn hanfodol i'n helpu i ddeall newidiadau mewn dysgwyr sy'n astudio cymwysterau ac effeithiau'r diwygiadau. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am yr ymchwil a sut y gallwch chi gymryd rhan yn fuan."