NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

21.03.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Llinell amser wedi'i diweddaru ar gyfer cymwysterau Teithio a Thwristiaeth

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi amserlen wedi’i diweddaru ar gyfer cyflwyno cymwysterau Teithio a Thwristiaeth ôl-16 wedi’u hadnewyddu.

Mae'r cyfnod datblygu a gaiff ei ddefnyddio gan gyrff dyfarnu i wneud newidiadau i'r gyfres bresennol o gymwysterau wedi'i ymestyn am flwyddyn. Bydd y gyfres newydd o gymwysterau Teithio a Thwristiaeth yn barod ar gyfer colegau addysg bellach ac ysgolion yn 2026 ac yn barod i’w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027. 

Fe wnaeth Ar Daith, adolygiad Cymwysterau Cymru o’r sector, ddarganfod bod yr ystod bresennol o gymwysterau ôl-16, a gaiff eu cynnig gan gyrff dyfarnu yng Nghymru, yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr ar y cyfan. Roedd yr adolygiad hefyd yn tynnu sylw at feysydd yr oedd angen eu diweddaru, gan gynnwys: 

  • pa mor gyfredol oedd y cynnwys 
  • cyfeiriadau at y cyd-destun Cymreig 
  • mwy o ffocws ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid 

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru feini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn fis Rhagfyr diwethaf. 

Fel cymwysterau Gwneud-i-Gymru sydd wedi’u cymeradwyo, mae’n hanfodol bod cyrff dyfarnu’n cysylltu â rhanddeiliaid o Gymru ac yn datblygu cyfresi o gymwysterau sy’n parhau i roi dewis i ganolfannau. Er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer hyn, mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu ymestyn y cyfnod sydd ar gael i ddatblygu'r cymwysterau hyn. 

Dysgwch fwy am ein gwaith yn y sector hwn yma.